Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Chwefror, 2011

          Yr wyf am synfyfyrio am yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto mis yma (wel wedi’r cyfan, dyma ydy’r digwyddiad fwyaf yng nghalendr y sin-llenyddiaeth-Gymraeg ynte?!) Y tro yma yr wyf am eich annog chwi, trigolion Wrecsam a darllenwyr Y Clawdd, i sidro roi cynnig ar un neu ddau o’r cystadlaethau llenyddol wrth i’r ŵyl trafaelio i’ch rhiniog flwyddyn yma (h.y. os nad ydych yn gwneud eniwe), a hoffwn dynnu’ch sylw at un categori yn benodol sef y gystadleuaeth “blog”, tudalen 62 yn y llyfr testunau (ar gael o Siop-y-siswrn). Beth a pam meddech chwi? Wel gadewch i mi eich difyrru am funud neu ddwy, gan ddechrau hefo siwrne hiraethus unwaith eto, trwy niwl y blynyddoedd maith, i 2008 y tro hyn ac i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r cylch.

          Fel sawl hanesyn y golofn hyd yn hyn, wraidd y stori yw fy ymdrechion fel awdures flagurol i dorri mewn i’r cylch llenyddol…a’r ffwlbri canlyniadol! Felly, mi roedd hi tua’r adeg yma o’r flwyddyn ac, gyda’r  Eisteddfod yn nesáu, prynais y llyfr testunau a sbïo trwy’r adran llenyddiaeth… “Cerdd ddychan” (dim syniad!) “Casgliad ar ffurf llên micro” (posibiliad) “erthygl grafog” (llai o syniad fyth gen i be ‘di hwnnw!) Hmm, cystadleuaeth blog hyd at 2,000 o eiriau…diddorol, er, doeddwn ddim cweit yn sicr beth oedd blog i fod yn fanwl gywir, dim ond ei fod e’n rhyw fath o wefan yr oeddech yn ei hadeiladu eich hunain! Holais fy ffrindiau ar maes-e.com a ddes i wybod mai blog oedd y fansin gwyddonias “Bodio’r bydysawd” y bues yn rhan o’r broses ei chreu yn ôl yn 2005, ond, ar yr ochr cysyniadol yr oeddwn i wedi gweithio; tybed pa mor anodd oedd hi i adeiladu blog gan ddefnyddio un o’r patrymluniau ys gwn i? Wedi’r cyfan, roedd trigolion technegol y maes wedi ‘creu’ y wefan ym mhen ychydig oriau yn doedden?

          Es ati i lunio braslun o flog (ar bapur). Penderfynais mai “Cegin Dodo” fyddai enw fy blog, gan fy mod yn hoff o goginio ac roeddwn yn ‘dodo’ newydd! Bwriadais ‘blogio’ yn wythnosol gyda ryseitiau blasus a straeon hwylus am helyntion dodo ifainc a’i nith fach annwyl. Fues wrthi am oriau yn sbïo trwy fy llyfrau coginio gan geisio ei chyfieithu gyda help fy ngeiriadur yr Academi ffyddlon…ond yn y diwedd nid oeddwn yn medru meistroli’r ochr technegol mewn digon o bryd a doeddwn ddim yn siŵr sut oedd mentro’r gwaith wedi ei chwblhau; piti i mi methu deall ar y pryd mai’r gwaith ysgrifenedig yn unig oedd ei hangen, wedi ei hanfon mewn ar ddisg! Ond ta waeth, mi fentrais y gystadleuaeth “Ysgoloriaeth Emyr Feddyg” a’r gystadleuaeth “Stori fer” ac mae ffrwyth fy ymdrechion wedi ei chofnodi hyd dragwyddoldeb yn y llyfr “Cyfansoddiadau a Beirniadaethau” dan y ffugenwau: “Dodo Siwenna” a “Greta Vaughan”.

          Eniwe, yn ôl at yr hanesyn dan sylw (sef ‘anecdote’ gyda llaw, gair newydd Cymraeg i mi mis yma!) Ar ddiwrnod y beirniadu felly, dyna le oeddwn yn y babell lên, yn eistedd yn swil ac yn gwrando’n astud gan obeithio na fyddai’r feirniadaeth o fy ngwaith i yn rhu hallt. Ac yna clywais rywbeth trist tu hwnt: nid oeddynt wedi derbyn ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth ‘blog’ ac felly ni fyddai’r wobr yn cael ei dosbarthu. “Ew ffansi! Ddim un cais!” medde fi wrth fy nhyn. “Taswn i mond di anfon fy ymdrechion mewn fuaswn i wedi ennill y £200!…erm a hefyd yr anrhydedd o gipio fy nghystadleuaeth lenyddol gyntaf wrth gwrs!”  Yn waeth fyth mi roedd hi’n ymddangos, o’r sylwadau o’r llwyfan, ei bod nhw’n sidro peidio cael y gystadleuaeth eto oherwydd y diffyg diddordeb; “Ew” medde fi eto, “Fuasai hynna’n biti”. Ac yn wir, mi fuasai hi’n biti, a hithau’n cyfrwng cyfoes sy’n rhoi’r cyfle i unrhyw un mynegi barn am beth bynnag licio nhw. Ac felly, y mae hi’n bleser mawr i mi cael eich hysbysebu fod y cystadlaethau llenyddol blwyddyn yma yn cynnwys unwaith eto’r categori difyr yma. Teimlaf felly ei fod yn hollbwysig fod y categori yn llwyddiant flwyddyn yma, gydag o leiaf 9 o geisiadau, sef cyfartaledd y ceisiadau i’r categori: Ysgoloriaeth Emyr Feddyg dros y blynyddoedd y mentrais i iddo; byddai hyn yn ddigon i sicrhau parhad y categori sy’n cynnig ryw Je ne se quoi i raglen y babell lên yn fy marn i. Mae angen ceisiadau felly: MAE EICH PABELL LÊN ANGEN CHI!

          “Ond beth yw blog?” Meddech chwi? “A sut mae cystadlu?”  a “Beth os nad oes gen i glem am yr ochr technegol? Wel, mae’r term “blog” yn deillio o gyfuniad o’r geiriau “Web” a “log” (jest rhag ofn fod ene un neu ddau o’r darllenwyr, fel fi, heb weithio hyn allan ar ben ei hunain!) Y mae hi’n genre eang sy’n tyfu’n o’r hyd wrth i fwy a fwy o bobl manteisio ar y cyfle i gyhoeddi ei syniadau amryw. Un o’r “blogwyr” fwyaf adnabyddus hyd yma yw “Belle de jour” a fuodd wrthi rhwng haf 2003 a hydref 2004 yn cadw ei dyddiadur fel “London call-girl”. Cafodd y dyddiadur ei rhyddhau’n ddiweddarach fel nofel ac yna fel cyfres teledu gyda Billie Piper yn chwarae rhan “Belle”. Daeth twist i’r stori ym mis Tachwedd 2009 pan ymddangosai erthygl ym mhapur newydd The Times gyda’r pennawd: “I’m Belle de Jour” gan ddatgelu mai Dr Brooke Magnati oedd Belle, sef gwyddonydd talentog a throdd at buteindra i ariannu blwyddyn olaf ei doethuriaeth.

          Felly mae dyddiadur yn bosibiliad ac mae gen bawb stori i’w gynnig: efallai fod gennych swydd anghysbell fel Belle?; neu efallai fod gennych ddyddiadur o gyfnod pan fuoch chi’n gweithio mewn swydd ddiddorol, a bellach wedi ymddeol ohoni, a buasai eich datguddiadau yn ddifyr tu hwnt?; efallai eich bod chi’n rhiant newydd a bod gennych lwythi o straeon am anwyldeb eich plentyn a hwyl a helyntion dysgu fod yn rhiant?; neu efallai eich bod chi’n astudio T.G.A.U neu Lefel A, a bod synfyfyrion difyr gennych am eich astudiaethau? Ffurf arall o “flogio” yw creu ffansin ar bwnc o’ch dewis (megis Bodio’r Bydysawd sy’n trafod y genre gwyddonias…felly efallai eich bod yn dilyn y genre fampirod a bod gennych rywbeth i ddweud am True Blood, y Twighlight saga ac unrhyw lenyddiaeth Cymraeg o’r genre? Cofnodwyd rhestr o “10 blogiau gorau yn y Gymraeg” gan Golwg360 yn 2009 a oedd yn cynnwys blogiau ar ystod eang o bynciau gan gynnwys: hwyl a helyntion criw o ddysgwyr dros y ffin (Clecs Cilgwri); mynegi barn a sylwadau ar wleidyddiaeth a ‘newyddion y dydd’ (Hen Rech Flin); synfyfyrion ar grefydd yng Nghymru (Blog Rhys Llwyd); a hyd yn oed blog yn trafod technoleg gyfoes (Metastwnsh). Beirniad y gystadleuaeth flwyddyn yma fydd Lyn Lewis Dafis sy’n cadw’r blog: <http://blogdogfael.org/&gt; ac sy’n nodi datganiad o fwriad y blog fel hyn: Sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd a chynghorydd o Aberystwyth, Ceredigion.

          Yn gryno, mae yna ddigonedd o ffyrdd i ‘blogio’ ac mae’n siŵr fod un i’ch siwtio. Y neges bwysicaf rwy’n credu yw’r ffaith fod: Dim angen creu blog ar-lein na threulio amser yn dysgu sut i greu gwefan: Dim ond angen sgwennu’r ‘blog posts’ (neu gofnodion dyddiadur) sydd angen, hyd at 3,000 o eiriau dros gyfnod o fis (a hynny’n ffuglen o bosib), ac yna ei hanfon ar ddisg hefo’r ffurflen o gefn y llyfr Rhestr testunau a’r taliad perthnasol (ac efallai allbrint o’r gwaith, jest rhag ofn!) at swyddfa’r Eisteddfod. Mae gennych hyd at Ebrill 1af  felly ewch ati da chi, wedi’r cwbl, does ddim byd i golli nag oes?

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Chwefror 2011 (Rhifyn 143)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, February 2011 (Issue 143).

Read Full Post »