Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Mehefin, 2013

Yn ystod dyddiau annioddefol o braf gwanwyn 2011, pan oeddwn wrthi’n straffaglu’n druenus i orffen fy nhraethawd doethurol, gan weithio’n galetach na wnes erioed o’r blaen ond yn cael dim tâl gan fod y ‘stipend’ wedi gorffen, mi roedd un peth yn fy nghynnal drwyddi, a hynny oedd yr addewid y byddai bywyd yn llawer iawn haws wedi i mi gwblhau’r gwaith yma. Wrth gwrs mi roeddwn wedi meddwl hyn sawl gwaith o’r blaen – er enghraifft wrth straffaglu i orffen fy nhraethawd israddedig, a thu hwnt i hynny wrth fynychu dosbarthiadau nos i wella fy ngramadeg tra’n gweithio trwy’r dydd fel cynorthwyydd ymchwil, gwneud gwaith gwirfoddol perthnasol ac yn trio dysgu gyrru ar yr un pryd – ond roeddwn yn sicr tro yma, wrth i mi terfynu fy hyfforddiant gobennol, fuaswn yn dod allan o’r twnnel tywyll ac yn cael swydd ymchwilydd gyda thâl go lew, a byddai fy amserlen yn llawer iawn llai hunllefus, a byddaf o’r diwedd yn cael amser i weithio ar fy novel gyntaf: Carmen Fernandez-Jones and the secrets of Cegin dodo…ac efallai byddwn yn cael amser i drio un neu ddau o hobïau newydd hyd yn oed e.e. cwiltio neu ferlota.

Ond os rhywbeth, rwyf wedi bod yn fwy prysur fyth ers cwblhau’r ddoethuriaeth a dechrau gweithio’n llawn amser (er fawr syndod a siom i mi ynde!) Yn wir, mae’n ymddangos mai dyma dynged yr ymchwilydd ‘gyrfa-cynnar’ sy’n breuddwydio am yrfa academaidd. Pam? Wel dydach chi ddim cweit wedi gorffen hefo’r ddoethuriaeth eto pan rydach yn handio mewn eich traethawd estynedig mewn clawr caled, gyda llythrennau aur arni…i’w gynnwys yn y Llyfrgell Brydeinig…(jest yn dweud ynde!) Nac ychwaith wedi i chwi graddio a chael eich tystysgrif a theitl newydd rodresa (‘swank’ yn ôl Cysgeir!) Ie wir, os ydych am aros o fewn yr academi, dim ond cychwyn y daith yw hyn i gyd – y mae hi’n amser rŵan i gyhoeddi erthyglau am yr ymchwil doethurol mewn siwrneli ‘high impact’, cyflwyno’ch gwaith mewn cynadleddau a seminarau ysgolheigaidd, a gwneud ceisiadau grant i’ch cynnal i wneud gwaith ymchwil eich hunan yn y dyfodol – a hyn i gyd tra yr ydych yn gweithio’n llawn amser mewn swydd newydd i’ch cynnal yn y cyfamser – sydd, rhan fwyaf o’r amser, ar bwnc gwahanol i’ch gwaith doethurol ac felly yn cymryd llawer o ‘head-space’ (ac rwyf i’n un o’r rhai ffodus sydd wedi llwyddo i gael swydd berthnasol fel ymchwilydd yn y brifysgol).

Felly dwi wedi bod yn andros o brysur dros y ddwy flynedd ddiweddar a heb gael llawer o amser hamdden i wneud be liciwn i – hyd yn oed dros y penwythnos na gwyliau dolig! Serch hyn, mae’n bwysig peidio digalonni gormod, y mae gen i swydd, hyd at ddiwedd mis Gorffennaf, hyd yn hyn, hefo posibiliad o estyniad tu hwnt, ac mae’r gwaith yn ddiddorol, yn rhoi cyfle i mi ddatblygu a chaffael sgiliau newydd, ac mae dyfodol disglair yn disgwyl y rheini ohonom sy’n fodlon jyglo’r gorffennol (gwaith doethuriaeth), y presennol (swyddi ymchwil contract), a’r dyfodol (ceisiadau grant amrywiol) nes i ni gyrraedd diwedd ein siwrne ‘gyrfa-cynnar’ a chael ein coroni’n academyddion bona fide…ac yn cael ein gwobrwyo a’n cardiganau brown…eh? O, yn ôl pob son mae’n rhaid i ni brynu’r rhain ein hunain, tsk!

Eniwe, fel unrhyw nyrd gwerth ei halen, yr wyf wedi bod yn synfyfyrio fy sefyllfa bresennol ac rwyf wedi dod o hyd i gyflinell ymysg fy ffefrynnau o fyd gwyddonias (science fiction fel y bedyddiwyd gan Islwyn Ffowc Ellis) – a hynny o sefyllfa Capten Picard yn ‘All good things’ (episodau 25ain a 26ain o’r seithfed gyfres o Star Trek Next Generation) lle mae ei hen elyn ‘Q’ (John de Lancie) wedi achosi meddwl Picard i neidio rhwng y gorffennol, presennol a’r dyfodol, wrth iddo orfod datrys dirgelwch sy’n trosgynnu’r tair realaeth, er mwyn bodloni gofynion llys ‘Q’, a hawlio’r fraint i ddynol ryw barhau i fodoli! Wrth gwrs mae’r Picard yn trechu yn y diwedd ac yn achub dynol ryw…wedi iddo ddioddef pryder, hunan-amheuaeth, a dicter tuag at y sefyllfa annheg. Ac felly hefyd, rwy’n gobeithio y byddaf innau’n fuddugoliaethus… ac i ddweud y gwir mae pethau’n dechrau siapio o’r diwedd.

Wrth i mi eistedd yma yn fy hafan cefn gwlad dros benwythnos hwylus o hir y Pasg, rwy’n teimlo fod fy ‘Picard predicament’ personnol ar fin ddod i ben: rwyf wedi argymell un papur o’r gwaith doethuriaeth i siwrnal cymdeithasegol ac mae gen i un arall ar y gweill; rwyf wedi trefnu cyflwyno fy ngwaith doethurol mewn seminar ysgolhaig ym mhrifysgol Glyndŵr hwyrach mis yma; mae’r swydd bresennol yn datblygu’n dda – cynhaliais weithdy mewn cynhadledd ‘arweinyddiaeth feddygol’ rhai dyddiau yn ôl ac rwyf wrthi’n paratoi erthyglau i’w argymell i siwrnalau dros yr haf, gan gynnwys fy adolygiad cyfundrefnol cyntaf; ac rwyf wedi argymell cais grant am gymrodoriaeth gyrfa-cynnar (early career fellowship) i wneud gwaith ymchwil i hunaniaeth y gymuned fyddar yng Nghymru. Yn y cyfamser, cafodd fy nhraethawd adolygiad tair o lyfrau o faes astudiaethau byddar ei dderbyn gan siwrnal mawr ym myd cymdeithasegwyr (a dwi ar bigau’r drain yn aros iddo ddod allan!) a dwi wrthi’n paratoi adolygiad llyfr arall o faes astudiaethau byddar…gan sidro be ddigwyddith i mi os na chaf fy nghymrodoriaeth (clywaf ymhen rhyw ddeufis bellach os wyf wedi bod yn llwyddiannus ai peidio!) Ac mae’r ysgrifennu creadigol ar y list ‘i’w wneud’ ynde!

A’r theme-tune medde chwi? Wel roedd temtasiwn i fod yn wamal gan ddweud fy mod yn rhu prysur i ffwdanu a’r ffasiwn lol (gan nad oedd un amlwg yn dod i’r gweill pan ddechreuais baratoi’r golofn!) Ond yna sylweddolais fod yna cynnig go lew, eto o bydasawd Star Trek – ond y gyfres newydd tro yma (yr un hefo Scott Bakula yng nghadair y Capten) sef “Where my heart will take me”; yn wir, er gwaetha’i statws ysgarol ymysg ffans y gyfres, mae geiriau’r theme tune, ynghyd a’r delweddau sy’n portreadu hanes datblygiad dynol ryw nes ei bod yn cyrraedd y gofod, yn adlewyrchu naws fy sefyllfa bresennol yn berffaith: “It’s been a long road, getting from there to here;  it’s been a long time, but my time is finally here; and I can feel the change in the wind right now; nothing’s in my way…”

Does dim byd amdani felly ond dal ati i weithio ar y papurau ac adolygiadau ‘ma…gan groesi bysedd ac aros i weld beth ddigwyddith gyda’r cais grant…ac yna, yng ngeiriau’r Picard ei hun: “Let’s see what’s out there”!  http://www.saralouisewheeler.wordpress.com 

Read Full Post »