Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Ebrill, 2014

Roedd hi’n fore braf yng Nghilgwri pan ddeffroes ar ddydd gŵyl Dewi eleni. Sbïais allan trwy’r ffenest, dros y caeau, gan feddwl yn flin am y pacio a pharatoi yr oeddwn wedi bwriadu ei wneud y diwrnod hwnnw, gan fy mod yn mynd i Ogledd Iwerddon yr wythnos ganlynol hefo ngwaith. Ond ‘Na!’, meddyliais, dwi ddim am wneud hynna heddiw, fydd rhaid ei adael tan yfory – dwi am fynd allan yn yr haul heddiw, ac ella cymryd rhan mewn dathliadau dros y ffin – am y tro cyntaf ers blynyddoedd oherwydd prysurdeb gwaith ac astudio!

Felly ffoniais fy rhieni, gan feddwl yn siŵr fysa rhyw ddathliadau werth chweil wedi ei threfnu yn Llangollen, a hithau’n tref sy’n denu cymaint o ymwelwyr dros y penwythnos. Ond na, meddai mam, mae hi wedi ei chanslo blwyddyn yma, felly da ni gyd yn mynd draw i’r Bala, i wylio nhw’n gwneud y gacen gri fwyaf erioed…

Um, medde fi, oke, wnâi ddŵad hefyd (gan bendroni ar y syniad o ddydd gŵyl Dewi yn cael ei chanslo…a ddim cweit yn gwybod beth i’w feddwl am y gacen gri enfawr! Eniwe, gyrrais i Llangollen a cherddais i mewn i’r fflat ger-yr-afon, lle’r oedd fy nithoedd, Christina ac Isabella Pinto-Edwards, wedi ei gwisgo’n barod mewn dillad traddodiadol Cymreig…ac wrthi’n rhedeg o gwmpas gan chwerthin yn uchel – ChYU…fel lol? Na? Wel mae’n rhaid trio does…

Eniwe, aethom ni gyd draw i’r Bala, lle’r oedd gwledd gwerth chweil o Gymreictod wedi ei pharatoi, chwarae teg. Cawsom selsig flasus o’r fan-stryd a chawsom sglodis o Y Badell Aur, a’i bwyta wrth i ni gerdded o amgylch y dre yn edmygu’r arddangosfeydd ffenest yr oedd y siopau i gyd wedi paratoi i ddathlu’r diwrnod. Cawsom hwyl hefo’r ‘fynnon ddisgyrchiant ceiniogau’ (coin gravity well) gan roi ceiniogau yn y top a’i gwylio’n cylchdroi am hydoedd cyn diflannu trwy’r twll yn y gwaelod; roedd Isabella a’r torf o blantos i gyd wrth ei boddau hefo’r teclyn syml yma. Prynais hwdi ‘cowbois’ o’r siop Awel Meirion, gyda’r gair ‘Cymraeg’ yn addurno’r ffrynt, a chafodd fy nithoedd llawer o hwyl yn sbïo ar y llyfrau Sali Mali amryw. Mae llawer o’r pethau yma yn Bala beth bynnag wrth gwrs – lle ffein ‘di Bala ynde!

Aethom i mewn i Plas-yn-dre lle cawsom wybodaeth am ddwyieithrwydd a CD caneuon Cymraeg i blant gan y stondin ‘Twf‘, a lle’r oedd llawer iawn o blant a’i theuluoedd wrthi’n mwynhau’r ŵyl. Ond uchafbwynt y diwrnod oedd yr ymgyrch ‘cacen gri fwyaf yn y byd’, a oedd yn anelu i dorri’r record byd. Ie, braidd yn swreal, ond mi roedd yr holl broses yn ddifyrrus tu hwnt i’r plantos cw. Yn y dechrau, aethom at y blaen ac mi roedd Christina wedi ei swyno wrth wylio’r cogyddion yn crymblo’r menyn i mewn i’r blawd, gan sidro pam oeddynt yn gwneud hyn – ac mi roedd y cogyddion yn hapus iawn ateb ei chwestiynau amryw. Yna dechreuai’r coginio ar y gradell enfawr dros y tan ‘custom-built’ ac mi roedd hynny’n gamp a ddenodd torf go dda, ac mi roedd yna awyrgylch o hwyl a chyfeillgarwch, wrth i bawb croesi bysedd gan obeithio y byddai’r criw mentrus yn llwyddiannus.

Wrth  i mi sgwennu’r erthygl hon, googlais i weld os oeddynt wedi llwyddo ai peidio, ac, yn ôl gwefan newyddion y BBC, roedd tref y Bala yn dal i aros i weld os oeddent wedi torri record y byd ai peidio – a hynny gyda’i chacen gri a fu’n mesur 1.5 medr (pum troedfedd) o led ac yn pwyso 22kg. Yn y car ar y ffordd yn ôl i Llangollen, fues wrthi’n sbïo ar bamffled Twf  hefo’r nithoedd, ac mi roedd Christina’n astudio’r gwahaniaeth rhwng y ddwy iaith yn ddygn, gan wneud sylwadau diddorol a mewnweledig chwarae teg. Gwrandawsom ar y CD ac mi ddaeth chofion melys drostaf wrth i mi canu’n ynghyd a ‘Gee Ceffyl bach’ a ‘Bwrw glaw yn sobor iawn’.

Wrth adlewyrchu ar hwyl y diwrnod, synfyfyriais ar y dyddiau gŵyl Dewi yr wyf wedi ei golli dros y blynyddoedd, a’r rhai y byddaf yn ei golli yn y dyfodol, os na wnaf newidiadau yn fy mhrysurdeb cyson. Felly mewn addewid Gŵyl Ddewi-aidd, yr wyf wedi gaddo i fy hun i adfer (reclaim) fy mhenwythnosau a gwyliau, i wario fwy o amser dros y ffin a hefo fy nheulu, yn enwedig yn helpu fy nithoedd i ddysgu’r iaith Gymraeg ac am ein diwylliant (culture). Ac yr wyf yn hollol benderfynol y byddaf, o hyn ymlaen, yn creu digon o saib yn fy amserlen er mwyn cael dathlu dydd gŵyl Dewi pob blwyddyn, gan gefnogi ymdrechion megis yr hon a welwyd yn y Bala eleni, lle roeddynt yn creu tamaid bach o hanes ac yn y broses yn creu dydd gŵyl Dewi arbennig a chofiadwy!

Read Full Post »