Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Awst, 2010

Rwy’n pum mlwydd oed. Mae fy ngwallt mewn plethau un pob ochr i fy mhen ac rwy’n gwisgo cot ysgafn wen. Rwy’n sefyll mewn stafell hwylus ac ynddi hen ddodrefn, pren, cyfarwydd. Mae’r haul yn pelydru trwy’r ffenest ac yn tasgu olau hardd dros y llawr llyfn, dderw.

Rwy’n teimlo’n hapus ac yn glyd. Ar ochr draw’r ystafell, ger cist o ddroriau mewn llinell a’i ysgwydd, y mae dyn yn sefyll. Mae e’n gwisgo crys gwyn a thrywsus haf llwydfelyn, hen-ffasiwn. Rwy’n ei adnabod; Taid yw’r dyn. Dwi’n gwybod hyn er i mi byth cwrdd ag ef; bu farw rhyw ugain mlynedd cyn i mi gael fy ngeni. Ag eto dyma fo, yn sefyll gyda mi mewn ystafell gyfarwydd, er wn i ddim ble mae’r ystafell yma. Ac mae e’n gwenu arna i’n glên.

Y mae Taid yn ysgrifennu rhywbeth ar seloffen ac yn ei rhoi mewn bocs bach sgwâr; y mae’n rhoi’r caead arni. Dwi eisiau gweld beth sydd yn y bocs a beth mae e wedi sgwennu, ond mae taid yn gwenu’n dyner ac yn dweud wrthyf ei fod o eisiau i mi gael y bocs pan rwy’n hynach.

Mae’r sin yn newid; dwi yn fy arddegau erbyn hyn, ac rwyf yn eistedd ar drên. Mae Taid wedi marw ac rydym ar ein ffordd i’w angladd. Mae Nain ai ffrindiau yn eistedd cyferbyn a mi, er bod Nain hefyd wedi marw ers rhyw ddeuddeg mlynedd bellach. Y mae’r trên yn enfawr, mwy fel fferi o ran siâp a maint ac mae yna lawer o bobl o amgylch yr ‘ystafell’.

Y mae yna focs bach sgwâr o fy mlaen ac mae gen i ryw hen gof amdano; am ei weld mewn ystafell clud gydag olau hardd a theimlad o gynefindra. Dwi’n agor y bocs ac mae yna haen o seloffen wedi ei threfnu’n daclus dros gynnwys y bocs. Y mae yna ysgrifen ar y seloffen wedi ei sgwennu mewn llythrennau cyrliog, taclus mewn inc aur disglair. Rwy’n darllen y neges arni:

“Dwi eisiau i ti fynd yn ôl at y ffordd yr oeddet ti ers talwm”

Wrth reddf rwy’n gwybod fod y neges yn cyfarwyddo at y ffaith yr oeddwn yn Gristion pan oeddwn yn blentyn ond yr wyf, erbyn hyn, yn anffyddiwr. Yr wyf hefyd yn gwybod rhywsut fod Taid yn poeni amdana i, gan fy mod wedi bod yn anhapus. Mae e’n teimlo y byddai pethau yn gwella i mi os byddaf yn ailymuno a’r Gymuned Gymraeg, trwy ddychwelyd at draddodiadau bywyd pentref, a trwy ddychwelyd at fynwes yr Eglwys.

Rwy’n symud y seloffen yn ofalus ac rwy’n gweld cadwyn arian. Y mae’r gadwyn yn gyfarwydd ond mae hi hefyd mewn fflwcs ac yn newid siâp a ffurf pob eiliad; ag eto mae’n gyfarwydd ym mhob amlygiad. Y mae’r gadwyn yn setlo mewn siâp Pili-pala hirgul. Rwy’n teimlo pwl o dristwch a chariad. Rwy’n cychwyn melys wylo wrth feddwl am Taid a’i anwyldeb.

Y mae Nain a’i ffrind yn gweld fy nagrau ac mae Nain yn cychwyn crio hefyd; y mae’n chwerthin yn ysgafn ac yn dweud “O, paid Sara bach, neu mi fydda ni’n gyd wrthi!”

Rwy’n rhoi’r bocs yn fy mhoced. Ond mae dal gen i deimlad cynnes yn fy mynwes; roedd Taid yn ddyn annwyl ac yn fy ngharu’n ddiamod.

Y mae’r trên yn cyrraedd yr orsaf ac mae fy ffrind Michelle ene yn ein disgwyl. Y mae’n agor drws y trên i fy nghyfarch. Y mae hi wedi dŵad i gadw cwmpeini i mi yn ystod yr angladd. Yr wyf mewn hwyliau anghyffredin o dda – mae cymaint o gariad a chyfeillgarwch o’m hamgylch.

Rwy’n camu oddi ar y trên ac mae niwl gwyn yn fy llyncu. Y mae’r sîn wedi newid ac y nawr mae Nain wedi marw. Yr wyf mewn tŷ cyfarwydd ag eto nid tŷ Nain fel y cofia hi. Daw dynes o’r Eglwys ataf. Y mae hi’n gwisgo ffrog hen ffasiwn a llinyn perlau o amgylch ei gwddw, mae ei gwallt wedi ei setio mewn cyrlau uchel ac mae hi’n gwisgo sbectol steil y chwedegau. Mae hi’n dweud wrthyf fod yna rhai o bethau Nain yn ei llofft – pethau yr oedd hi am i mi ei gael.

Rwy’n mynd i’r llofft ac rwy’n agor drws y wardrob. Y mae’n llawn menyg wlanog a bagiau a phyrsiau anghyffredin. Y mae’r ddynes yn y ffrog hen ffasiwn yn chwerthin ac yn dweud “Yr oedd dy Nain yn fwy tebyg i ti nag oedden ni wedi tybio ynde!”

Rwy’n edrych trwy’r menyg, bagiau a phyrsiau, yn ei sidro. Y mae sawl pwrs del iawn yma ac mae un mawr yn dal fy llygad; y mae wedi ei wneud o ffelt gwyrdd, ac mae delwedd tŷ mawr gwyn arno, hefyd wedi ei wneud o ffelt. Y mae’r tŷ yn gyfarwydd; mae’n blasty mewn rhyw gof pell gennyf ond ni allaf gofio ei enw na manylion felly. Rwy’n hoffi sawl pwrs a bag, maent at fy nant yn union. Rwy’n pacio cymaint ohonynt a medraf i mewn i fagiau papur, gwyn.

Rwyf yn ôl ar y trên, wn i’m lle rwyf yn trafaelio iddi. Rwy’n cydio’n dynn yn y bagiau papur gwyn ac rwy’n gwisgo’r gadwyn Pili-pala. Mae rhyw deimlad annifyr yn dod drostaf ond ni allaf roi bys ar ei darddiad. A’i euogrwydd am gymryd cymaint o’r pyrsiau a bagiau? Siawns, dim ond i’r jymbl fydda nhw’n mynd os na fyddaf i wedi ei chymryd. Efallai unigrwydd sydyn o fod ar ben fy hun? Cyd-destun anghyfarwydd y trên yma? Galar a hiraeth?

Toc rwy’n agor fy llygaid ac rwy’n deffro yn fy ngwely, yn fy llofft newydd clud yn fy nghartref priodasol. Mae pelydrau haul y bore yn tasgu olau euraidd o amgylch yr ystafell wen, a’i dodrefn pren, hen ffasiwn. Y mae teimlad cynnes, braf ac anghyfarwydd yn dod drostaf. Rwy’n hapus – wir hapus, fel na fues i ers pan oeddwn yn hogan fach optimistaidd.

Neithiwr mi wnes i gwrdd â Thaid – wir ei gwrdd ag ef. Ie mewn siâp breuddwyd y trefnwyd y cwbl ond nid yw arwyddocâd y cyfarfod wedi dirymu oherwydd i mi effro. Roeddem nián dau yn yr ystafell gyfarwydd gyda’r dodrefn pren a llawr derw. Roedd Taid am roi neges i mi ac estynnodd tros ffiniau amser, realiti a’r isymwybod i fy nghyrraedd. Y mae e yn fy nghalon ac wrth fy ochr ers y noson honno, mewn ffordd nad oedd yng nghynt.

Gorweddais yn ôl ar y gobennydd gan sidro: ni allaf wneud yr hyn a ofynnir gennyf – i fod yn Gristion; ond rwy’n teimlo nerth a hyfdra newydd yn fy mynwes wrth ei gofio’n gwenu arnaf. Rwy’n benderfynol i ymdrechu’n fwy; gwneud yn fawr o bob cyfle; I fwynhau bywyd fwy yn hytrach na’i wastraffu’n syrffedu dros yr hyn nad oes gen i a’r hyn nad wyf wedi ei wneud.

Cofiaf am freuddwyd Dodo Gwenda, lle ddaeth Taid ati tra oedd hi’n cysgu ar y soffa, gan ddweud fod e’n bryd iddo gymryd Nain gydag ef, a hynny jest cyn i Nain farw. A tydi Dodo Gwenda ddim yn un i goelio mewn ysbrydion na dim fel yna cofia – yn wir, yn hytrach na bod ofn, mi wnaeth hi neidio tuag ato gan floeddio “Naaaaaa!” cyn iddo ddiflannu yng ngolau’r ‘stafell. Os fedra unrhyw ysbryd cyfathrebu a’r byw felly, Taid oedd hynny mae’n amlwg.

Rwyf yn y swyddfa’n gweithio. Rwy’n teimlo’n ddiog hefo’r pnawn cynnes ac wedi’r cinio blasus. Rwy’n tywallt coffi o’r сafetière ac, ar fympwy, rwy’n googlo ‘Pili-pala + symbolaeth’. Y mae llwythi o ganlyniadau yn taro’r sgrin yn trosglwyddo ei neges drawiadol: ‘Symbol Cristnogaeth bwerus’…spwci! Rwy’n pori’r we am gadwyn arian mewn siâp Pili-pala hirgul, megis yr un yn fy mreuddwyd, ond nid oes un boddhaol i’w weld. Maent yn rhu mawr, neu’n rhu ‘bling’, neu’n rhu drud. Rwy’n rhoi’r gorau iddi.

Rwy’n eistedd yn Y Felin Ŷd yn Llangollen, yn cael pryd o fwyd gyda fy rhieni. Rwy’n adrodd yr hanes ac mae ton o emosiwn yn fy nharo. Y mae dagrau yn casglu yn fy llygaid. Y mae Dad yn fy ngwylio a diddordeb datgysylltiedig, er mai ei Dad o oedd Taid. Mae llygaid gleision Mam yn llenwi a dagrau ac mae hi’n llyncu’n galed wrth i’r stori barhau. Cyn bo hir dyna le mae’r ddau ohonom wrthi’n felys wylo, gyda Dad yn ein gwylio’n syn. Gwragedd ynde?!

Y mae pobl yn sbïo ac rydym yn teimlo braidd yn wirion. Sychwn ein dagrau a pharhau hefo pwdin. Yn sydyn mae Mam yn cofio i mi gael cadwyn Pili-pala ers talwm – “ac yn wir” medd hi, “roeddet ti’n ei alw o’n ‘Pili-pala necklace’ a dwi’n credu mai Nain rhoddodd o i ti!” Daw ias dros fy nghroen wrth i Dad gofio amdano hefyd. Wrth gyrraedd y fflat mae’r ddau ohonynt yn mynd ati i chwilio am y gadwyn ond yn methu ei ffeindio.

Rwy’n cerdded trwy Cheshire Oaks hefo fy nhŵr. Rydym newydd brynu gorchudd matres ac mae fe’n cynnig ein bod ni’n picio draw i Past Times. Syth i mi gerdded i mewn i’r siop rwy’n ymwybodol o’r stondin gemwaith. Mae yna sêl. Cerddaf tuag at y stondin fel taswn i’n cael fy llusgo ene gan ryw ddewiniaeth. Yna, y mae cadwyn Pili-pala arian, hirgul; ddim mor hirgul â’r un yn y freuddwyd ond yn ddigon tebyg i ennyn teimlad o gynefindra.

Y mae fy nhwr, sydd wedi clywed yr hanes drosodd o drosodd erbyn hyn, yn gwrando ar sbïel yr eneth siop am y dêl gallwn ei gael heddiw, gan gynnwys y clustlysau am wyth punt yn unig. Mae fy ngŵr yn codi’r gadwyn yn ofalus gan gynnig ei brynu. Dwi ddim yn un am addurnau fel arfer ond rwyf wedi gwirioni a’r gadwyn.

Rwy’n gwisgo’r gadwyn i’r parti nos Sadwrn. Parti hefo gwaith fy ngŵr ac yr wyf wedi poeni amdano ers wythnosau – a fyddaf yn cael hi’n anodd siarad â’r bobl ddeallus yma? Ydw i’n ddigon diddorol? A fyddaf yn cael fy amlygu fel ffŵl bach dibwrpas?

Ond gan wisgo fy nghadwyn rwy’n teimlo’n wahanol; rwy’n teimlo grym a chariad Taid yn fy amgylchu. Nid oes ots am fy noethuriaeth ataliedig, na fy niffyg erthyglau siwrnal “REF-able”; rwy’n person hyfryd, annwyl, diddorol, gyda chalon lân. Dwi’n person cyfan a theilwng heb gydymffurfio na gorfod chyfiawnhau fy hun. Rwy’n ymlacio’n hapus ac yn mwynhau’r cwmni hyfryd, y bwyd bendigedig, a’r gwin hwylus.

Ni fyddaf byth yn Gristion, a dwi’n credu fod Taid yn derbyn hyn. Ond rwy’n byw o fewn egwyddorion fy magwraeth grefyddol. Rwy’n berson ysbrydol ac rwy’n ceisio’n gorau glas i fod yn berson da a thrin eraill fel byddaf yn hoffi iddyn nhw fy nhrin innau.

Ac y nawr, mae gen i gwlwm agosrwydd hynafiadol, wedi’r cwrdd paradocsaidd, traws-ffiniol yma. Rwy’n falch i mi cael cwrdd â fy Nhaid o’r diwedd – a phwy a ŵyr os welaf e eto, pan groesaf y ffin o’r byd yma i’r nesaf?

Nid yw’r stori fer yma wedi ei gyhoeddi ninlle arall./ This short story has not been published anywhere else.

Read Full Post »