Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Archive for Hydref, 2017

Ys gwn i faint ohonoch sydd wedi bod wrthi’n gwylio’r gyfres deledu newydd ‘A Handmaid’s tale’ a chafodd ei chyflwyno i ni dros gyfnod y gwanwyn/ haf flwyddyn yma? Gyda’r stori dystopaidd, patriarchaidd, sydd yn iasol o berthnasol i’r cyfnod cyfoes, mewn rhai gwledydd ar hyn o bryd, a’r agwedd weledol syfrdanol o’r gwisgoedd lliwgar, mae hi yn sicr wedi achosi ychydig o stŵr. Yn ystod yr haf, roedd lluniau a storïau yn y papurau newydd, o ymgyrchwyr hawliau merched yn y UDA yn gwisgo mewn ffrogiau coch a bonedau gwyn, megis y rhai a gwisgwyd gan y llawforynion yn y gyfres. Roeddynt yn defnyddio’r delweddau symbolaidd fel rhan o’i phrotestio nhw yn erbyn yr “American Health Care Act 2017”, sydd yn cynnwys newidiadau fydd yn effeithio’r mudiad ‘Planned parenthood’, ac agweddau eraill o hawliau merched. Felly mae’r gyfres wedi dal sylw ymgyrchwyr yn America, gyda’i rhybuddion, negeseuon a delweddau trawiadol, a dwi wedi clywed pobl oedd ddim yn ymwybodol o’r llyfr yn trafod eu hymatebion i’r gyfres ‘od ond diddorol’. Ond wrth gwrs, mae’r gyfres deledu yn seiliedig ar lyfr enwog Margaret Atwood, a gyhoeddwyd yn 1985, hefo’r un teitl. Felly meddyliais fysa hyn yn adeg dda i synfyfyrio ar y ffenomenon ychydig.

Roedd hi tua 2005, tra oeddwn yn aelod brwd o’r gymuned ar-lein ‘maes-e.com’, pan ddes i ar draws chwedl y llawforwyn am y tro cyntaf. Roeddwn wedi bod yn rhan o sawl trafodaeth am gwyddonias (science fiction) a hefyd am lenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol. Wnaeth rhywun argymell y llyfr i mi gan ei fod, mewn ffordd, yn cyfuno’r ddwy elfen. Er bod y llyfr wedi ennill y wobr Arthur C. Clarke am gwyddonias yn 1987, tydi Margaret Atwood ddim yn rhu hoff o’r genre – mae gwell ganddi’r enw ‘ffuglen ddyfaliadol’ (speculative fition). Yn wir, mi wnaeth hi achosi ychydig o stŵr, pan ddywedodd mewn cyfweliadau fod gwyddonias yn ymwneud a phethau fel wormholes a bywyd yn y gofod, yn hytrach na’r wyddoniaeth a gwybodaeth sydd gennym ni yn barod. Teimlai rhai nyrds gwyddonias ei bod hi yn bod yn sarhaus tuag atyn nhw a’r genre o wyddonias (gan gynnwys fi pan ddarllenais am hyn am y tro cyntaf). Ond mae yna rywbeth sydd yn wahanol i waith Atwood. Mae ei hysgrifennu yn ddwfn ac yn ysgolhaig, ac eto yn hawdd i’w ddarllen. Mae hi yn gwneud pwyntiau pwysig am anghydraddoldebau (inequalities) ond mewn ffordd fedrith pawb ei ddeall a’i fwynhau. Ond, fel unrhyw awdur o wyddonias, mae hi hefyd yn ein gwthio i ystyried pethau na fyddwn wedi meddwl amdanynt o’r blaen.

Pan ddarllenais chwedl y llawforwyn am y tro cyntaf cafodd effaith mawr arnaf. Stori mor anghyffredin, yn llawn syniadau brawychus; pwy oedd yr awdures yma tybed? Es ati i ddarllen amdani a daeth yn un o fy llenyddiaeth-idols, ynghyd a Jean Rhys, Patience Agbabi ac Aled Lewis Evans. Y mae Margaret Atwood, o Ganada, yn nofelydd, bardd, a hefyd wedi cael gyrfa ysgolhaig, gan lwyddo ym mhob maes. Ew. Am ddynes. Am berson. Am ffenomenon. Ac wrth baratoi’r erthygl yma, dysgais fod hi hefyd wedi dyfeisio a marchnata yn llwyddiannus y ‘LongPen’, a thechnolegau cysylltiedig, sydd yn ei gwneud hi’n bosib ysgrifennu dogfennau o bell, mewn modd ‘robotic’. Diar mi, mae rhai pobl jest yn llawn dop o dalent tydan?! Beth bynnag, yn ddiweddar, sgwennais erthygl cyfnodolyn (ar hyn o bryd o dan ystyriaeth) am fy ngholofn yma yn Y Clawdd. Ceisiais wneud ‘Dadansoddiad Cynnwys Hunanethnograffeg’ (Autoethnographic Content Analysis), gan addasu dwy fethodoleg i greu un newydd, er mwyn ystyried yr hyn yr wyf wedi ei hysgrifennu yma dros yr wyth mlynedd diwethaf. Diddorol oedd gweld cymaint o weithiau i mi ddefnyddio’r enw Atwood. Weithiau i sôn am Margaret Atwood ac/ neu ei gwaith, ond hefyd weithiau jest er mwyn sôn am fy nyfodol perffaith – gyrfa sy’n cyfuno’r ysgrifennu creadigol hefo’r ysgolhaig: beth rwy’n hoff o’i alw’n gyrfa-Atwoodaidd.

Yn amlwg roeddwn i wedi cyffroi wrth glywed fod cyfres deledu wedi ei lunio ar sail chwedl y llawforwyn  – er, roeddwn hefyd braidd yn amheus, rhag ofn nad oeddwn yn hoffi’r addasiad.  Mae fy ymateb wedi bod yn un cymysg. Mae yna sawl erthygl ar y we erbyn hyn yn trafod yr amryw ffyrdd y mae’r gyfres deledu yn wahanol i’r llyfr – oed Serena Joy a’i gwr, y comander Fred; pwy sydd yn gwneud neu ddweud beth yn y stori ac ar ba adeg (newidiadau diangen?!), ac wrth gwrs mi roedd y materion yma yn amharu rhywfaint ar y profiad o wylio’r sioe deledu – o’n, ohonom ni fel Robert Webb ar y rhaglen ‘Great Movie Mistakes’! Wedi dweud hyn fodd bynnag, mae Margaret Atwood wedi bod yn rhan o’r penderfyniadau yma i gyd o ran newidiadau. Felly ym marn yr awdur maent yn gwella’r addasiad i’r sgrin, ac, efallai, yn gyfle i adolygu rhannau o’r stori y mae hi eisoes wedi ei hail feddwl. Beth bynnag, ar y cyfan wnes i fwynhau’r addasiad ac mae hi yn amlwg wedi taro nodyn hefo ystod eang o’r cyhoedd. Yr wyf innau wrthi’r nawr yn darllen rhai o nofelau eraill Atwood, ac yn ei mwynhau nhw yn arw…ond fwy am athrylith Margaret Atwood mewn colofn ar y gweill…

Read Full Post »