Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Rwy’n eistedd yn dderbynfa’r gwesty ym Maldives, yn darllen fy e-byst trwy’r IPad. Dwi’n ei sganio nhw ar frys oherwydd dwi newydd dalu $10 am awr o Wifi ac rydym wedi gwario hanner o hynna yn barod, yn synnu ar y newyddion am Frexit! Dyna pryd gwelais yr e-bost gan Chris, golygydd y Clawdd, yn dweud ei fod wrthi’n gosod rhifyn Gorffennaf er mwyn ei anfon at yr argraffwyr nos yfory, felly os hoffem gynnwys rhywbeth dylwn ei hanfon ato erbyn bore yfory. Roedd yr e-bost wedi ei hanfon ar y 4ydd o Orffennaf ac mi roedd hi yn nawr y 7fed o Orffennaf – roeddwn wedi methu’r diwrnod cau gan ddau ddiwrnod. Felly hyd yn oed os fedraf gyrraedd cyfrifiadur, a sgwennu colofn wych – ni fyddai’r rhifyn yma o’r Clawdd yn cynnwys fy ngholofn. Teimlais yn syn, yn anfodlon, yn siomedig, ac roedd gen i gywilydd – sut oeddwn i wedi gadael i hyn ddigwydd? A finnau heb golli’r un rhifyn ers cychwyn y golofn yn rhifyn Hydref 2009.

Rhedais trwy’r wythnosau diweddar yn fy mhen. Roedd hi wedi bod yn fwrlwm braf o gynadleddau ysgolhaig a gwyliau blynyddol. Y gynhadledd ryngwladol ar ddwyieithrwydd mewn addysg ym Mhrifysgol Bangor, lle cyflwynais bapur am ddatblygu darpariaeth baralel cyfrwng Gymraeg, a phoster am canu-dwylo (iaith-arwyddo i gerddoriaeth) a hefyd wnes i berfformio canu-dwylo hefo’r grŵp Wrexham Singing Hands. Wedyn ymlaen a fi i Sbaen i’r gynhadledd ieithyddiaeth gymdeithasegol – lle cyflwynais am y “bri negyddol” (negative prestige) tuag at dafodiaith Rhosllannerchrugog. Wedyn ymlaen i Blaya Flamenca i aros hefo fy rhieni, a chael ychydig o orffwys ar y traeth. Yna fues adre am ychydig ddyddiau, dadbacio ac ail bacio, ac wedyn dyma ni wedi hedfan i Biyadhoo – un o’r ynysoedd yn atol De Malé.

Oedd, mi oeddwn wedi bod yn brysur felly – ond a oedd hynny’n esboniad boddhaol mewn gwirionedd? Wedi’r cyfan, fel bydd un rhywun sydd wedi bod yn darllen y golofn dros y blynyddoedd yn gwybod, mae pob blwyddyn wedi bod yn ffair o weithio’n ffyrnig ar brosiect ymchwil, yna chwilio am waith wrth i’r contract tymor-byr diweddaraf gorffen, yna glanio contract newydd a dechrau o’r cychwyn eto – nes i fi cael swydd fel darlithydd flwyddyn ddiwethaf. Siawns felly fod mynychu’r cynadleddau braf, a diogi ar y traeth ‘cw, wedi bod yn fwy ingol (stressful)? Ta waeth, roeddwn wedi colli’r rhifyn yma a dene fo, doedd dim ffordd o drwsio hyn. Ond fel unrhyw gymdeithasegydd gwerth ei halen, roedd diddordeb gen i mewn adfyfyrio ar beth oedd wedi digwydd.

Meddyliais yn ôl i sut ddes i fod yn golofnydd i’r Clawdd yn y lle cyntaf. Yn ôl yn 2007, sgwennais bwt bach i’r Clawdd am beth oeddwn yn astudio at fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Lerpwl. Rhai misoedd wedyn, a’r Clawdd yn ei newydd wedd, ysgrifennais bwt mwy personol, am fod yn alltud Wrecsam. Ar y pryd roeddwn yn nesáu at ddiwedd fy nghyfnod fel myfyrwraig doethuriaeth (wel, y ‘stipend’ beth bynnag) ac yn teimlo braidd yn bryderus. Roedd ysgrifennu ysgolhaig yn anodd ac roeddwn wedi “rhewi”, mewn ffordd – methu ysgrifennu dim heb gynnwys clamp o gyfeirnodion fel tystiolaeth fod yr hyn roeddwn yn dweud hefo unrhyw werth. Doedd fy mrawddegau ddim yn llifo. Doeddwn fethu ysgrifennu – felly sut ar y ddaear roeddwn yn mynd i sgwennu traethawd hir?!

Yna ffeindiais ffynhonnell o gwytnwch, ac yn y pen draw’r ateb i fy mhroblemau – disgynnais yn ôl mewn cariad hefo fy hen hobi o ysgrifennu creadigol (a darllen nofelau a storïau). Ysgrifennais fy ngholofn gyntaf am waith a bywyd Jean Rhys, yna daeth fy ngholofn yn ffocws i fy ngwaith ysgrifennu a synfyfyrion am y “sin llenyddol Gymraeg”, a llenyddiaeth yn gyffredinol. Wrth feddwl yn ôl, ar adegau, ac yn enwedig pan oedd fy sefyllfa ysgolhaig yn edrych yn andros o ansicr a bregus, daeth y golofn yn rhan bwysig iawn yn fy mywyd. Gwariais wythnosau yn archwilio pynciau – megis “hiraeth”, gan ei drafod hefo un rhywun oedd yn fodlon gwrando, ac yna’n trio gweithio allan beth oedd y neges wrth wraidd yr hyn roeddwn wrthi’n synfyfyrio. Ac yn ddigon ysmala, mi wnaeth y sgwennu rhydd yma, am fy synfyfyrio’n llenyddol, yn hytrach na materion ysgolhaig meddygol, helpu llacio ychydig ar fy steil ysgrifennu, ac mi wnes i ffeindio fy llais academaidd – jest mewn pryd i ysgrifennu traethawd hir doethuriaeth go lew.

Yna, wrth gwrs, flwyddyn yn ôl, dechreuodd fy ngyrfa ysgolhaig o ddifri, gan i mi gael fy swydd gyntaf fel darlithydd ym mhrifysgol Bangor. Mae’n ddiddorol sbïo yn ôl rŵan ar natur y golofn dros y blynyddoedd, ac adfyfyrio ar sut mae fy mherthynas a hi wedi newid. Lle ar un adeg mi roedd hi’n graig yr oeddwn yn glynu wrthi (hynny ydy, os ddim byd arall, rwy’n colofnydd i’r Clawdd), mae hi nawr wedi datblygu’n fforwm lle rwy’n trafod fy synfyfyrion cymdeithasegol a gyrfaol, yn ogystal â synfyfyrion llenyddol.

Ac felly, efallai mai dyna pam wnes i ddŵad i anghofio am fy ngholofn am un rhifyn – oherwydd bod fy ngyrfa ysgolhaig wedi blodeuo cymaint, a hynny’n mor sydyn, fel fy mod wedi bod mor brysur yn mwynhau’r haf o weithgaredd ysgolhaig, aeth pob dim arall allan o’m mhen. Ond, dwi nôl rŵan ac mae’r profiad yma wedi gwneud i mi gofio i werthfawrogi’r fraint o gael ysgrifennu i fy mhapur bro leol. Ac ar ben hyn, gan ddefnyddio fy “nychymyg cymdeithasegol” (C.Wright Mills), dwi am gasglu’r adfyfyrion yma at ei gilydd, a sgwennu erthygl cyfnodolyn ysgolhaig am fy mhrofiadau ac adborth fel colofnydd “synfyfyrion llenyddol” dros y saith mlynedd diwethaf, a sut mae hyn yn ffitio hefo’r llenyddiaeth ysgolhaig sy’n datblygu am y papurau bro yn gyffredinol, o fewn fframwaith y cyfryngau lleol mewn cyfnod pentref-byd-eang.

Advertisements

Roeddwn newydd orffen y ddarlith ac roedd y myfyrwyr wrthi’n pacio casys pensiliau i’w bagiau ac yn gadael yr ystafell – yn llawn ysbrydoliaeth ac yn edrych ymlaen at astudio ymhellach yn y llyfrgell…wel, roeddent yn gadael yr ystafell beth bynnag. Sylwais, fodd bynnag, fod un o’r myfyrwyr yn symud yn y cyfeiriad arall – tuag ata’ i. Roedd hi’n edrych arnaf ac yn gwenu. Gwenais yn ôl – mae hi’n fyfyrwraig ddisglair ac roeddwn yn disgwyl rhyw gwestiwn gwych am y ddarlith. Ond na, dim dyna oedd nod y sgwrs oedd i ddod nesaf.

A fyddai’n bosib, gofynnodd, i mi ysgrifennu ‘reference’ iddi. Wel wrth gwrs medde fi – un o’r pethau da am addysgu grwpiau bach yw eich bod yn dod i nabod pob myfyriwr yn dda iawn – trwy farcio eu haseiniadau a chael trafodaethau difyr yn y dosbarth.  A oedd hi’n mynd am swydd dros yr haf? Sidrais. Na, roedd hi am drosglwyddo i brifysgol arall. Suddodd fy nghalon i lawr at fy esgidiau – doeddwn ddim eisiau ei cholli. Chofiais yn ôl at y gweithdy lle taflais gwestiwn dechreuol allan i’r dosbarth, am symptomau-heb-ei-esbonio-gan-feddygaeth, a daeth y llais cryf yma yn ôl, yn gwneud pob math o bwyntiau gwych am bwnc fy nhraethawd hir doethuriaeth. Yn wir, erbyn diwedd y gweithdy yna roedd fy mhen yn troi hefo’r dadansoddiadau cymdeithasegol roeddwn wedi ffaeli a gwneud pan oeddwn wrthi’n ysgrifennu’r traethawd, ac roeddwn yn rhyfeddu ein bod ni newydd ei thrafod mewn modiwl isradd, blwyddyn gyntaf.

Oedd rhywbeth yn bod? Oedd rhywbeth wedi digwydd? Oedd yna unrhyw beth fedraf ei wneud? Cynigais yn obeithiol. Ond na, digon teg oedd ei rhesymau – dyheu am fwrlwm y ddinas fawr oedd hi, sef fy rheswm i yn y lle cyntaf am fynd draw i Lerpwl yn 1998…a’r un rheswm i mi adael deng mlynedd yn ddiweddarach. Roedd yn ddiddorol trafod hyn hefo hi, gan gofio fy nghymeriad i pan oeddwn yn deunaw oed. Roeddwn wrth fy modd yn mynd allan a threuliais gryn dipyn o fy amser sbâr yn y ‘Cooler’, sef clwb nos o fewn undeb myfyrwyr LJMU. Wnes i hyd yn oed gweithio wythnos gyfan yn ‘The Cavern’ un flwyddyn, yn ystod y ‘Mathew’s street festival’; gwariais y shifftiau 13 awr y dydd, yn tapio fy esgid ac yn canu’r caneuon Beatles, wrth weini diodydd a chasglu gwydrau gwag. Ac roeddwn wrth fy modd hefo pob munud ohono. Ysmala felly fy mod y nawr yn llawr iawn hapusach adre ar nos Sadwrn, yn gwylio’r teledu ac yn gweu ‘granny squares’!

Beth bynnag, rhai diwrnodau yn ddiweddarach, daeth yr e-bost trwy gan UCAS yn gofyn i mi gadarnhau fy mod yn hapus i roi ‘reference’, ac yna yn rhoi’r cyfarwyddiadau (manwl a llym) o beth i’w sgwennu a sut. Chofiais yn ôl at y gweithdy uchod a wnes ei chynnwys, ynghyd at ddisgrifiad o sut ddes i nabod y fyfyrwraig, hanes marcio ei thraethawd, ychydig am ei chymeriad, a sut roedd hi’n gwneud yn gyffredinol ar ei chwrs, gan gynnwys y modiwlau eraill nad oeddwn yn ei addysgu. Roedd yn broses reit ddiddorol, ac yn agwedd pwysig yn fy natblygiad fel darlithydd newydd. Synfyfyriais wedyn am ba mor bell rwyf wedi dŵad ers dechrau’r tymor, pan oeddwn yn pryderu cymaint am gofio enwau pawb a dysgu’r pethau fwyaf sylfaenol amdanynt – mi ddaeth hyn i gyd yn naturiol, fel gwnaeth pawb dweud wrthyf y byddai’n ei gwneud.

Yna, dechreuais adlewyrchu ar y ffaith ein bod ni’n dwy, fel Cymry Cymraeg, wedi defnyddio’r gair Saesneg ‘reference’ ynghanol sgwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, fel bod hynna yn beth hollol naturiol i’w gwneud. Yna, wrth feddwl, nid oeddwn yn medru rhoi fy mys ar y gair Cymraeg am ‘reference’. Beth oedd o tybed? Es at geiriadur.bangor.ac.uk, a dyna le oedd y gair – ‘geirda’. Ew, roedd hynna’n ffitio llawer iawn gwell na’r gair Saesneg! Ac roedd yn gwneud llawer iawn fwy o synnwyr hefyd, gan gyfateb a’r frawddeg Saesneg “Put a good word in” – er, roedd hyn (i’w weld) yn fwy nag un gair, sef geiriau – hence y ‘geir’-‘da’. Mae’r lluosog braidd yn lletchwith fodd bynnag – ‘geirdaon’. Ond dyna’r gair, felly well i ni ei dysgu hi, ynghyd a’r gair ‘Geirda’, sydd, wedi’r cyfan, yn air bach da!

Mae’n ddiddorol fod cymaint o eiriau fel hyn yn cael ei gollwng yn y Gymraeg, gan i ni ffafrio’r geiriau Saesneg – megis ‘aunty’ yn lle ‘dodo’. Mae’n debyg hefo’r gair ‘geirda’, mae oherwydd bod byd gwaith rhan fwyaf o bobl wedi, ers talwm, bod trwy gyfrwng y Saesneg – neu o leiaf pethau swyddogol megis ‘geirda’. Mae hyn wedyn yn mynd i fod yn arferiad o ddefnyddio’r gair Saesneg nes anghofio (neu beidio llunio) gair Cymraeg. Mae hi efallai wedyn yn teimlo braidd yn ‘ffug’ (false) i ddefnyddio’r gair Cymraeg sy’n ddieithr i ni. Ond dwi am annog ein bod ni gyd yn gwneud yr ymdrech – mae gennym eiriau bach annwyl fel hyn, ac felly mae’n biti defnyddio’r Saesneg?

Fedra i ddim cofio amser pan nad oedd Star Wars yn rhan o fy mywyd. Cefais fy ngeni rhwng rhyddhad y ffilm gyntaf ‘Star Wars, Episode IV: A new Hope’ yn 1977, a’r ail ffilm ‘Episode V: The Empire Strikes Back’ yn 1980. Roedd gennym Star Wars ar fideo, wedi ei dapio oddi ar y teledu, hefo’r darlun sgrin yn rhannu’r ffilm lle oedd yr hysbysebion wedi bod; darlun un o’r posteri marchnata ydoedd, ac mae’r darlun wedi aros yn fy nghof hyd yma (fwy am hyn mewn munud). Ond y drydedd ffilm y gwyliais fwyaf – ‘Episode V: Return of the Jedi’ (1983), nes oedd pob manylyn gen i ar gof – hyd yn oed rhannau’r Ewoks!

O’r ffilmiau yma, yn bennaf, y ffurfiais acen i fy hun (at pan oeddwn yn siarad Saesneg). Gwyliais drosodd a drosodd rhannau Ben ‘Obi Wan’ Kenobi, wedi ei chwarae gan Alec Guinness – yn dilyn ei ynganiad “…a more elegant weapon, for a more civilized age”, a “Luke, you’re going to find that many of the truths we cling to depend greatly on our own point of view”. Wnes i hefyd gwylio rhannau o ‘The King and I’, ‘Mary Poppins’, ac araith/ apêl y dywysoges Leia – ond Obi Wan oedd fy mhrif ‘Professor Higgins’.

Roedd gen i hen focs Ferrero Rocher wag, lle roeddwn yn cadw fy ffigyrau Star Wars – roedd gen i Luke, Han Solo, y dywysoges Leia, a’r R2 unit coch sy’n syrthio’n ddarnau pan mae Uncle Owen yn ceisio ei brynu (sy’n lwcus, wrth gwrs, i R2D2, gan fod e wedyn yn cael mynd at Luke a’i deulu ar y fferm lleithder, ac o fama mae’r cynllun i achub y tywysoges-yn-y-neges yn cychwyn o ddifri). Roedd gan ffigwr Luke ‘Lightsaber’ wedi ei guddio yn ei llawes, ac roedd nib bach yn eich galluogi i’w llithro fewn i’w law, yn barod i ymladd. Roedd wyneb Han Solo yn welw, ac nid oedd Leia hanner mor brydferth ag oedd hi yn y ffilm, ond doedd dim ots – gwariais oriau yn chwarae hefo nhw.
Rwy’n cofio gwario llond o amser yn ceisio gwneud lightsaber – gan ddefnyddio amryw dorsh a phapur neu blastig gwahanol liwiau. Rwyf hefyd yn cofio lapio rhaff sgipio o amgylch fy nghanol…jest rhag ofn fysa angen i mi ddianc gan ‘storm troopers’, a’r bont i gyrraedd yr ochr draw wedi torri. Chwaraeais gêm cyfrifiadur Star Wars, lle oedd modd fod yn rhan o’r tîm yn ceisio chwythu’r ‘Death Star’ fyny, trwy sgimio ar hyd y beipen wacáu ac yna’n defnyddio proton torpido i achosi adwaith cadwynol (chain reaction). A thyfais fy ngwallt yn hir er mwyn bod fatha’r dywysoges Leia – a hir y bu hi nes i gyfnod ‘Kylie Minogue’ cyrraedd, pan wnes i ei dorri a chael ‘bubble-perm’.

Felly dychmygwch fy nghynnwrf, yn 1998 – a finnau newydd gyrraedd Lerpwl i fynychu’r brifysgol, pan wnaeth sôn am y ffilmiau newydd Star Wars dorri. Roeddwn mewn sinema un diwrnod a ddaeth y ‘trailer’ am ‘Episode I: The Phantom Menace’ mlaen – ac wrth iddo ddarfod dyma drigolion y sinema dechrau clapio – ew, ar ôl llawer iawn ormod o flynyddoedd o absenoldeb, mi roedd bydysawd Star Wars yn ôl hefo ni. Ond siomedig oedd y ffilmiau yma (1999, 2002, 2005)…actiwli, os dwi’n mynd i fod yn cwbl onest, ar ôl gweld yr un cyntaf wnes i droi fy nghefn arnynt a wnes i ddim hyd yn oed boddran hefo’r ddau arall. Roedd rhai agweddau da – Brenhines Amidala, ond doedd naws y ffilmiau cyntaf ar goll, a gormod o bethau sarhaus megis Jar Jar Binks…yn ogystal â rhan fwyaf o’r deialog! Felly dydw i ddim yn cyfri’r ffilmiau yma fel rhan o’r ffenomenon rwy’n ffan ohoni.

Eniwe, wrth gwrs yn ddiweddar, eto ar ôl sbel, rydym wedi cael y ffilm newydd sbon: ‘Episode VII: The force awakens’. Poenais os ddylwn i’w weld neu ddim – beth os oedd hefyd yn siomedig? Gwyliais yr heip i gyd, gan gynnwys y ffaith fod llawer o’r cymeriadau gwreiddiol yn mynd i fod ynddi. Or diwedd, dros dolig, mi es i hefo fy ngŵr i’r sinema IMAX yn Cheshire Oaks, er mwyn rhoi cyfle i’r etholfraint (franchise) profi ei hun unwaith eto. Ond llugoer oedd fy ymateb mae gen i ofn. Mae’r sin agoriadol yn addawol iawn, a pan welish i’r ‘Star Destroyer’ o’r tu allan, wedi ei hanner claddu yn yr anialwch – yn amlwg wedi bod ene ers y frwydr yn y sêr – roeddwn wrth fy modd yn hiraethu am yr hen ffilmiau a’i chymynrodd (legacy).

Serch hyn, a rhyw un neu ddau sin arall, roedd y ffilm yn shambls. Yn wir, roedd o fel petai rywun wedi cymryd yr hen Star Wars gwreiddiol, wedi ei dorri yn ddarnau, ei shyfflo nhw, rhoi rhyw sins arall hurt mewn, ac yna ei gweu nhw nol at ei gilydd mewn rhyw jumbl dryslyd. Siomedig iawn. Ond mae yna un peth da wedi dod o hyn i gyd – mae nwyddau Star Wars unwaith eto ar gael, yey! Ges i ymbarél yn anrheg dolig o’r gŵr, lle mae’r polyn yn replica o lightsaber, a ffeindies i crys-t yn HMV sydd hefo’r union ddelwedd poster a oedd rhwng yr hysbysebion ers talwm. Pob cwmwl hefo leinin arian llu!

Wel dyma fi wedi cyrraedd carreg filltir bwysig – hanner ffordd trwy fy mlwyddyn gyntaf o addysgu fel darlithydd polisi cymdeithasol ym mhrifysgol Bangor. Ie wir, wnaeth semester un darfod ar y 4ydd o fis Ionawr (yn symbolaidd pan drosglwyddais y traethodau, wedi ei marcio a hefo sylwadau, yn saff i law’r swyddog gweinyddu myfyrwyr). Mi wnaeth hithau eu prosesu a rhoi gwybod i’r myfyrwyr fod y marciau ar gael trwy gyhoeddiad ar ‘Bwrdd du’ y modiwl. Rwyf y nawr felly wrthi’n paratoi at semester dau, sy’n cychwyn o ddifri mewn cwpwl o wythnosau. Fydda i yn cyflwyno tri modiwl: ail ran ‘Materion iechyd a lles’, fydd yn canolbwyntio ar yr agwedd polisi cymdeithasol; ail ran ‘Y broses ymchwil’, fydd yn canolbwyntio ar fethodoleg ansoddol, ffeministiaeth ac ethnomethodoleg; a modiwl newydd sbon o’r enw ‘Y corff caeth’, sy’n ymdrin â chaethiwed (addiction) mewn agwedd beioseicocymdeithasol. Ydy, mae’n mynd i fod yn llond o waith caled. Ond ydw, dwi’n edrych ymlaen ato…a hefyd at wario llond o amser braf dros yr haf, yn mynychu cynadleddau ac yn cael gwyliau bach neis, yn saff wrth wybod fod gen i swydd am o leiaf y pedair blynedd nesaf. Ew mae hi’n deimlad braf cael ychydig bach o sicrwydd ar ôl anrhefn y blynyddoedd diwethaf ‘ma! Felly synfyfyrion addysgol a cynorthwyol sydd gen i i’w cynnig yn y rhifyn yma…ond fydda i nôl i’r llenyddol yn y golofn nesaf, peidiwch â phoeni.

Hoffwn sôn ychydig wrthoch chi am Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Sefydlwyd Y Coleg yn seiliedig a’r ymrwymiad y gwneir gan glymblaid Llafur a Phlaid Cymru yng nghytundeb ‘Cymru’n un’, sef: “Byddwn yn sefydlu Rhwydwaith Addysg Uwch Cyfrwng-Cymraeg – y Coleg Ffederal – er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg yn ein prifysgolion” (Morgan a Jones, 2007). Ar ôl gwaith paratoi dros bedair blynedd, sefydlwyd Y Coleg ym mis Ebrill 2011. Dyma oedd y tro cyntaf i adnoddau arwyddocaol, cylchol cael ei buddsoddi yn addysg uwch Cyfrwng-Cymraeg ar lefel ledled-Cymru. Prif nod Y Coleg yw cynyddu, datblygu a lledaenu’r amrywiaeth o gyfleoedd astudio, trwy gyfrwng y Gymraeg, ym Mhrifysgolion yng Nghymru. Mae ganddynt gynlluniau penodol i wella astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys: cynllun staffio i apwyntio darlithwyr newydd cyfrwng-Gymraeg, ac ysgoloriaethau i annog darpar fyfyrwyr i wneud rhan neu i gyd o’i astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae fy swydd darlithio ym mhrifysgol Bangor dan nawdd Y Coleg ac mae yna dal ddigon o amser i ddarpar fyfyrwyr ymgeisio am un o’r ysgoloriaethau astudio. Mae yna pedair math o ysgoloriaeth ar gael, ac mae’r dyddiadau cau dal o fewn eich cyrraedd ar gyfer tair ohonyn nhw:

Ysgoloriaethau cymhelliant: i fyfyrwyr israddedig sydd am astudio o leiaf 33% o’i chyrsiau (40 credyd y flwyddyn), drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna o leiaf 150 ysgoloriaeth ar gael pob flwyddyn ac maent yn rhoi £1,500 o gymorth ariannol dros dair blynedd. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw: 8fed o fis Mai 2016.

Ysgoloriaeth William Salesbury: ar gael i un myfyriwr lwcus pob blwyddyn, sydd yn astudio 100% o’i chwrs (120 credyd y flwyddyn), drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth yma yn rhoi £5000 dros dair blynedd. Y dyddiad cau am wneud cais yw: 20fed o fis Mawrth 2016.

Ysgoloriaethau Meistr: i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio cwrs sydd hefo o leiaf 60 credyd wedi ei addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd hefyd yn cyflwyno traethawd hir trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna o leiaf 10 o rain ar gael pob flwyddyn ac maent yn rhoi £3,000 dros gyfnod o flwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer rhain yw: 11eg o fis Gorffennaf 2016.

Am fwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau yma, ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: <http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/cymorthariannol/&gt; Medrwch ddefnyddio’r chwilotydd cyrsiau i ddarganfod cannoedd o gyrsiau ar draws prifysgolion Cymru ac mae yna fersiwn ap medrwch lawr-lwytho hefyd.

Yn ogystal ag ysgoloriaethau’r Coleg, mae yna ysgoloriaethau y medrwch ymgeisio amdanynt o fewn y prifysgolion. Yma ym mhrifysgol Bangor er enghraifft, mae yna lawer o ysgoloriaethau gwahanol, gan gynnwys rhai astudio cyfrwng Gymraeg (mewn sawl pwnc) a hefyd ysgoloriaethau rhagoriaeth a theilyngdod. Gweler y wefan yma am ragor o wybodaeth: <http://www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg/study-with-us/undergraduate-funding/cy&gt;

Felly mae’r dyfodol yn edrych yn reit ddisglair i addysg uwch cyfrwng-Gymraeg,- a ddim jest i bobl sydd am astudio llenyddiaeth Cymru (nid fod gen i ddim byd yn erbyn hynny wrth gwrs!) ond i ddarpar wyddonwyr, seicolegwyr…ac ie, y rhai ohonoch sydd am ddod atom ni yma ym Mangor i astudio’r gwyddorau cymdeithasol. Allaf hollol argymell fy modiwlau i ynde, ac mi fydd croeso cynnes Cymreig yma yn eich disgwyl!

*Ôl nodyn: defnyddiais wybodaeth o’r erthygl cyfnodolyn canlynol wrth baratoi’r erthygl yma:

Davies, A.J., & Trystan, D. (2012) ‘Build it and they shall come?’ An evaluation of qualitative evidence relating to student choice and Welsh-medium higher education. International Journal of Bilingual Education and Bilingualism, 15(2), 147-164.

 

Wel mae’n bleser cael dweud fod pethe dal yn mynd yn dda hefo’r gyrfa academaidd. Dechreuais darlithio ym mis Medi ac rwy’n ei fwynhau yn arw; er mae hi’n hynod o waith caled cofia! Mae hi fel paratoi at cyflwyno mewn cynhadledd – pob wythnos! Rwyf mor brysur fel fy mod yn falch o weld y gaeaf yn cau amdanom ni, fel allaf sbïo trwy’r ffenest heb deheu am fynd allan am dro. Ond ta waeth, beth sydd gan hyn i gyd i wneud hefo opera sebon wedi ei lleoli draw yn Texas? Wel, nol yn yr wythdegau mi roeddwn i, fel hogan fach, wrth fy modd hefo’r sioe gyfareddol (glamorous), hollol dros-ben-llestri yma. O’r foment oedd y ‘theme tune’ nodweddiadol yn cychwyn, nes diweddaru pob pennod ar cliff hanger, roeddwn wedi fy swyno. Ac yn ddiweddar, wrth ddychwelyd o Zambia, welais un neu ddwy bennod ar yr awyren, a ffeindies i fo pan ddes i adre – lle allaf ei ‘stream’ ar yr ipad. Gwych.

Dechreuodd y sioe hefo pennod o’r enw ‘Digger’s daughter’ lle mae Bobby Ewing yn dychwelyd i fferm Southfork, hefo’i wraig newydd Pam (merch Digger Barnes). Rydym yn dysgu’n sydyn, trwy ymatebion y cymeriadau, fod hyn yn annisgwyl a ddim yn mynd i gael ei dderbyn yn hawdd gan bawb (neu neb?!) Oherwydd fel y teuluoedd Montague a Capulet, mae yna hanes o elyniaeth rhwng y teuluoedd yma, sy’n ymestyn yn ôl at pan oedd Jock Ewing a Digger Barnes yn ‘wildcating’ am olew yn y ‘30au. Mae hi’n cynnwys triongl cariad rhwng y ddau, dros ‘Miss Ellie’, a oedd yn gariad i Digger ond priododd Jock i achub Southfork rhag mynd yn fethdalwr. Y syniad gwreiddiol am y sioe oedd fysa’r gynulleidfa yn ymddiddori ym mherthynas Bobby a Pam ac yn ei ddilyn yn frwd. Ac mae hi’n stori fach reit ddiddorol – mae Bobby yn gymeriad dymunol a parchus, ac mae Pam yn ddynes gref, ddiddorol, ac maent yn gwneud cwpwl bach neis, golygus.

OND, ddaeth yn glir ar ôl cyfnod byr iawn, fod gan bobl fwy o ddiddordeb mewn brawd mawr Bobby, a dihiryn y sioe, JR Ewing. Ew, oes oedd yna erioed drwg yn y caws, wel dyma fo – roedd wastad wrthi’n trio gwneud ‘deal’ ac roedd ei dulliau gwastad yn cynnwys y cynlluniau fwyaf ffiaidd, cyfeiliornus (devious) a ‘Machiavellian’ posib; ac aeth yn waeth wrth i’r gyfres ddatblygu, siŵr o fod oherwydd wnaeth y cynhyrchwyr sylweddoli ei atyniad. Ac mi roedd y berthynas rhwng ef a’i wraig Sue Ellen yn un stormus, gan gynnwys ysgariad, ail briodas, carwriaethau hefo pobl eraill (ar y ddau ochr gan gynnwys chwaer Sue Ellen), a chynllunio yn erbyn ei gilydd; roedd yna hyd yn oed can am JR roedden ni yn ei ganu ar fuarth yr ysgol, ac mae’r cwestiwn ‘pwy saethodd JR’ hefo statws chwedlonol (legendary) erbyn hyn. A rhywbryd yng nghanol y ffuglen wych yma i gyd, mi wnaeth yr actor a oedd yn chwarae JR cyd-drafod gwell contract i’w hun gyda ‘Lorimar stiwdios’, dêl fysa JR wedi bod yn falch ohoni. Roedd y sioe hefyd yn llawn steil yr wythdegau a byd y ‘texas oilman’, o’r ‘bourbon and branch’ roeddent yn ei hyfed yn yr ‘Oil Baron’s club’ a’r ‘Cattleman’s club’, i wallt mawr, ‘shoulder pads’ a gôr-colur ei ‘WAGs’.

Mae Dallas (yr hen gyfres, dwi heb gyrraedd yr un nesaf eto) yn cynnig golwg i mewn i fywyd mewn un lle ag amser arbennig – ac un gwbl wahanol i fywydau rhan fwyaf o’r gynulleidfa; dihangfa lwyr o fywyd pob dydd. A dyma un o’r pethau pwysig am ffuglen sydd weithiau yn cael ei hanwybyddu. Ydy mae opera sebon megis Dallas yn rhywbeth ysgafn i’w wylio jest er mwyn hwyl, ac nid yw’n addysgol (oni bai eich bod am ddysgu am y busnes olew, neu sut i hyfforddi ceffylau ar y fferm). Ond yn bersonol allaf ddweud, fod pan fod gen i lwythi o waith i’w wneud, a ddim amser i fynd allan am fwy na rhyw ugain munud i ymestyn fy nghoesau, mae cael trochi (immerse) fy hun yn y byd bach clyd yma – wrth fwyta brecwast, neu olchi fyny, neu wrth orwedd lawr pan does gen i ddim egni ar ôl i hyd yn oed darllen – mae’n ffynhonnell bwysig o hydwythdedd (resilience), trwy helpu fi i ymlacio a meddwl am rywbeth arall am rhai munudau. Ar hyn o bryd rwyf wedi cyrraedd cyfres deg, sy’n dechrau gyda Pam yn dihuno i ffeindio Bobby yn y gawod ac felly dyw e ddim wedi marw, mae Patrick Duffy yn ôl yn y gyfres, ac mae’r tair blynedd diwethaf wedi bod yn freuddwyd! Athrylith! Hefyd, mae yna ddyn wedi troi i fyny yn honni mai ef yw Jock, a bod o heb farw yn De America, ond fod ei wyneb wedi newid oherwydd llawdriniaeth ar ôl y ddamwain hofrennydd (helicopter). Mae yna twtch o’r ‘Pale rider’ i’r llinyn stori yma ac rwyf yn edrych ymlaen at gael gweld sut mae’n datblygu (gan wrthsefyll y temtasiwn i sbïo ar Wikipedia). Ni allaf feddwl am ddifyrrwch gwell a gallaf ei hollol argymell!

Oes ‘na unrhyw beth well tybed, nag wario pnawn heulog, heddychlon, yn darllen ac yn synfyfyrio mewn crogwely? Crog-beth medde chwi? Wel yn hollol, fysa fyn ateb i. Ond ia, ‘crogwely’ ydy’r gair Gymraeg am ‘hammock’ yn ôl geiriadur yr academi; mae ‘hamog’ yn cael ei chynnig fel yr unig air arall posib. Ddim fy mod yn hollol yn erbyn y geiriau-wedi-ei-Chymreigio yma per se (Lladin am ‘ynddo ei hun’, gyda llaw). Ond mae’n dechrau ymddangos yn chwiw (trend) yn fy ngwaith ysgrifennu, wrth i mi gyfieithu geiriau rwyf wedi dod i’w adnabod trwy’r Saesneg yn unig. Wedi’r cyfan, pamffledi gwyliau yw’r lle arferol i weld crogwelyau ynde! Mae peryg i frawddegau cyfan fod yn llawn o eiriau felly, pob yn ail air, nes bod y golofn/ stori fer yn darllen fel bod e mewn cod hanner-a-hanner, a ddim mewn ffordd bwrpasol. Felly Crogwely amdani – ag eto, dwi ddim yn ei hoffi o! (Ac ydan, mae crogwelyau yn wrywaidd yn ôl geiriadur yr academi).

Mae’r gair crogwely o leiaf yn disgrifio’r ddyfais i’r dim – mae hi’n wely sydd wedi ei ‘crogi’ (hang) rhwng dwy goeden. Y gair arall am ‘hang’ medde chwi? ‘Hongian’. Dwi’n dweud dim ynde, achos dyna’r unig air Gymraeg roeddwn yn gwybod am ‘hang’ nes i mi sbïo yn y geiriadur. Mi wnaeth y gair ‘crogi’ wneud i mi feddwl am ‘Gwener y Groglith’. Ond wrth feddwl, ‘croeshoeliad’ yw’r gair Gymraeg am ‘crucifixion’, ac mae’r gair ‘hang’ yn Saesneg yn cael ei ddefnyddio i olygu rhoi dillad ar y lein yn ogystal â rhoi dolen (noose) o amgylch gwddw rhywun a’i hongian nhw oddi wrth gangen (branch) neu drawst (beam). Ond dwi dal ddim yn hoffi’r gair ‘crogwely’.

Mae hanes y crogwely, a tharddiad y gair yn reit ddiddorol yn y Saesneg, yn ôl Wikipedia eniwe. Datblygwyd y ‘crogwely’ gan bobl frodorol America ar gyfer cysgu. Cawson ei fabwysiadu gan forwyr i arbed lle ar longau, ac yna gan rieni yn yr 1920au i ddal plant oedd newydd ddysgu cropian. Erbyn heddiw wrth gwrs maent yn boblogaidd ar gyfer ymlacio ac maent yn symbol o’r haf, hamdden, ymlaciad, a byw bywyd syml, hawdd. Dwi wastad wedi eisiau crogwely ac am flynyddoedd roeddent yn un o fy hoff bethau i sbïo arnynt mewn pamffledi gwyliau. Mi wnes i drio gwneud un fy hun pan oeddwn yn hogan fach – hefo blanced denau o ddefnydd hollol anaddas, ag heb strapiau i’w glymu (nes i jest clymu’r defnydd rownd y goeden). Does dim angen dweud fy mod wedi bod yn hollol aflwyddiannus yn y fenter benodol yna ynde! Mae Jean Rhys yn sôn am grogwely yn y stori fer ‘Mixing cocktails’,  sydd ar y feranda – mae’n un cynfas ac yn llawn o glustogau. Mae adroddwr y stori yn disgrifio wrthym rinweddau ac ansawdd y breuddwydion y cafwyd ar wahanol adegau o’r diwrnod, yn y crogwely yma. Mae’r stori fer yma yn fyr iawn, ac eto yn atgofus (evocative) o le ac amser, ac mae’r crogwely yn chwarae rhan bwysig yn y darlun yma.

Er dryswch, mae Wikipedia yn cynnig dau darddiad am y gair ‘hammock’. Mae’n dweud fod y gair yn dŵad o’r iaith Taíno, Arawakaidd (Haiti) yn golygu ‘rhwyd bysgota’. Ond mae’n mynd ymlaen i ddweud fod y crogwelyau cynnar wedi’i gwehyddu o risgl (bark) y goeden ‘hamack’. Ar ôl gwglo ychydig am y goeden ‘hamack’ ddes ar draws blog oedd yn dweud fod Christopher Columbus wedi sôn amdanynt yn ei ddyddiadur. Soniodd fod Indiaid wedi dod at ei llong i gyfnewid nwyddau, gan gynnwys ‘hamacas’ neu rwydau yr oeddynt yn cysgu ynddynt.

Yn ôl at Wiki eto, sy’n son fod crogwelyau yn bwysig iawn yn ddiwylliant y bobl ‘Yucatecan’, fod pob tŷ, ta waeth am gyfoeth na thlodi, hefo bachau crogwely ar y waliau. Yn Venezuela cafodd pentrefi cyfan ei dwyn i fynnu mewn crogwelyau; chafodd eu dyluniad ‘breathable’ (does ddim gair Gymraeg am hyn) o’r crogwely ei fabwysiadu gan chwilotwyr (explorers), y fyddin Unol Daleithiau, ac ymwelwyr eraill i’r jyngl. Y fantais oedd ei rhinweddau o osgoi nadredd a sgorpionau ar y llawr, a hefyd heintiau ffwngaidd o’r lleithder uchel a glaw cyson. Ac eto yn ôl wiki mae crogwelyau-sari (wedi ei gwneud o ddefnydd ysgafn sari) yn cael ei ddefnyddio Gogledd India fel man cysgu oerol (cooling) i fabanod.

Beth bynnag, yn ddiweddar mi wnaethom ni yma yng Nghilgwri brynu dau grogwely ac rydym wedi bod yn ei hongian rhwng tair coeden yn y ddôl o flaen y tŷ. Rydym wedi bod yn gorwedd ynddynt, yn yr haul, yn yfed gwin ac yn darllen a sgwrsio; braf iawn, rhaid dweud, a gallaf ei hollol argymell!

Wel mae llond o bethau wedi digwydd ers i mi sgwennu’r golofn ddiwethaf. Fy newyddion fwyaf yw fy mod wedi ymgeisio am swydd fel ‘Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol (Cyfrwng Gymraeg)’…ac wedi ei glanio hi! Ie wir, doeddwn i ddim wedi bwriadu ymgeisio am swydd newydd mor fuan ar ôl cychwyn ym mhrifysgol Bangor, yn enwedig gan fy mod yn mwynhau’r prosiect ymchwil presennol cymaint. Ond yn y bôn, nod yr holl astudio ac ymdrechu dros y blynyddoedd diwethaf oedd cael swydd fel darlithydd – ac rwy’n lwcus dros ben fy mod wedi ei chael hi. Ar ben yr anrhydedd o gael swydd fel darlithydd, fydd y fraint gen i addysgu a gweithio yn hollol trwy gyfrwng y Gymraeg; dwi wrth fy modd a bron methu coelio’r peth – dwi’n teimlo fatha Mair Llywarch! Mae sgwennu’r golofn yma dros y chwe blynedd diwethaf wedi bod yn hyfforddiant ardderchog i mi, wrth i mi orfod estyn y geiriadur i ysgrifennu am bethau a llefydd nad oeddwn wedi dysgu na chlywed amdanynt trwy gyfrwng y Gymraeg – gan gynnwys tre’r penrhyn!

Byddaf yn dechrau fy swydd newydd ar y cyntaf o fis Medi. Yn y cyfamser rwyf yn parhau a fy mhrosiect presennol am gymdeithas sifil yng Nghymru, mewn lle a thros amser. Rwy’n gwneud yr ymchwil yn Rhosllannerchrugog a Llangollen, gan ystyried y cysylltiadau rhyngddynt yn ogystal â’r gwahaniaethau. Oherwydd natur ddwyieithog yr ardaloedd hyn, mae llawer o’r gwaith yn galw i mi wneud cyfweliadau a mynychu digwyddiadau ayyb trwy gyfrwng y Gymraeg; fysai’r ymchwil yn llawer iawn gwannach a llai cynhwysfawr heb yr allu i weithio’n ddwyieithog. Byddaf yn parhau i weithio ar yr ymchwil yma trwy’r haf a hefyd pan wyf yn cychwyn fel darlithydd, gan fod elfen ymchwil i fy nghyfamod. Mae’n sefyllfa ddelfrydol ac rwy’n ffeindio’n hun unwaith eto’n hynod o ddiolchgar fy mod wedi derbyn magwraeth ac addysg Gymraeg sydd wedi fy ngalluogi i fod yn y sefyllfa fendigedig yma.

Mewn newyddion arall, rwyf newydd ymaelodi fel un o ‘Cyfeillion Y Stiwt’ ac rwy’n edrych ymlaen at drefnu digwyddiadau hwyl ene, gan gynnwys rhai cyfrwng Gymraeg. Rwy’n hoffi meddwl byddai fy hynafiaid sy’n hanu o’r ardal hon yn browd o honnaf – gan gynnwys rhieni fy nain, sef Margaret Jones a John Earnest Jones (yntau’n mwynwr a hithau’n merch mwynwr, fel rwyf newydd ddysgu…ond fwy am hyn mewn colofn ar y gweill…). Yn wir mae hanes ardal y Rhos yn gyfareddol – roedd yn bair o Gymreictod, gyda’r boblogaeth yn cael ei denu o bob cornel ein cenedl hyfryd. Creuwyd yr arloeswyr yma diwylliant a thafodiaith arbennig ac unigryw, gan greu adeiladau anhygoel tra roeddynt wrthi’n creu ei chymuned ddeinamig; mae’r Stiwt yn un o’r adeiladau hyn – yn wir mae’n adeilad anhygoel i dref, heb son am bentref!

Yn y cyfamser, dros y misoedd diwethaf, wrth weithio ym Mangor, rwyf wedi dod yn ymwybodol o dwf cyffroes yn yr allbwn o Wyddonias Cyfrwng Gymraeg – pan ysgrifennais fy ail golofn Synfyfyrion Llenyddol ar y mater o wyddonias Gymraeg (Rhagfyr 2009: Roddenberry, Atwood…ac Islwyn Ffowc Elis! Tarddiad ‘Gwyddonias’ Cymraeg) roedd ddim llawer ar gael. Felly dwn i’m beth sy’n gyfrifol am y twf diweddar yma, ond rwy’n edrych ymlaen at dal i fynnu hefo hyn dros yr haf cw…efallai hefo lasiad o win yn yr ardd. Ac mae hyn wedi rhoi’r syniad i mi am ddigwyddiad posib i’w chynnal yn y dyfodol agos: ‘Comicon (Comicon) Cyfrwng Cymraeg’ – y cyntaf erioed! Rwyf wedi cael ymateb ffafriol yn barod gan rhai o fy ffrindiau ar drydar ac rwy’n rhagweld ymateb ffafriol gan y ‘Sin Gwyddonias Gymraeg’ yn gyffredinol.

Rwy’n gallu ei gweld hi rŵan (yn steil Marlow yn The Singing Detective, neu Dale Cooper yn Twin Peaks), fydd yna sesiynau panel hefo sêr y sin yn trafod ei gwaith, gweithdai ‘masterclass’ i blant ar sut i sgwennu gwyddonias (gan efallai ei chysylltu hefo cystadlaethau llenyddol, megis yr eisteddfodau), cystadlaethau gwisg ffansi gorau (dwi am fynd fel She-ra), stondinau nwyddau SciFi, cystadlaethau ‘Dungeons and Dragons’ , ‘Tri-dimensional chess’ a gemau tebyg, bwydydd ‘themed’ megis punch mewn steil y ddiod Klingon enwog ‘bloodwine’, ac wrth gwrs llawer iawn o drafodaethau yn y bar am y Gwyddonias gorau (mewn unrhyw iaith) a’r fath o wyddonias rydym ni’n gobeithio ei weld yn y dyfodol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gobeithio y caf wireddu fy mreuddwyd o Gomicon Cyfrwng Gymraeg, ond beth bynnag, mae’r dyfodol ar hyn o bryd yn edrych yn addawol iawn i mi – ac mae fy nyfodol, i’w weld hefo naws Gymreigaidd iawn arni. Felly, yn eiriau’r Picard (gan ddychmygu ei fod o Rhos): Gadewch i ni weld beth sydd allan ene…