Llifoedd:
Cofnodion
Sylwadau

          Rhai misoedd yn ôl bellach, cefais fy ngwahodd i siarad â’r Gymdeithas Owain Cyfeiliog, sef grŵp llenyddol Wrecsam, am fy ngwaith ymchwil doethuriaeth, fy llenydda, ac am fod yn golofnydd llenyddol rheolaidd ar gyfer Y Clawdd. Yn naturiol mi roeddwn wrth fy modd gyda’r syniad a dechreuais baratoi araith fyddai’n cyfleu sut oedd fy ngyrfa academaidd wedi tryfalu’n berffaith a fy ymdrechion llenyddol, a sut roedd ysgrifennu i’r papur bro wedi rhoi hwb mawr i fy ysgrifennu academaidd, gan fy helpu trwy adegau tywyll yn fy ngyrfa. Yna cefais e-bost gan yr awdures Mari Strachan (“The Earth Hums in B Flat” a “Blow on a dead man’s embers”) yn diolch i mi am anfon copi o’r Clawdd, (Rhagfyr 2011) ati, ac am sgwennu’r erthygl ynddi wedi ei selio ar ei llyfr newydd; ond soniodd hefyd fod fy enw i yn ymddangos yn agos at ei henw hithau ar raglen digwyddiadau llenyddol ‘Llenyddiaeth Cymru’ (Yr Academi gynt). Es ati i gwglo a dyna le oedd fy enw ar y rhaglen, hefo pwt bach yn hysbysebu fy araith gerllaw! Ew yr anrhydedd ynte! “Mae’r yrfa lenyddol wedi cychwyn yn wystl” meddais wrth fy hun, gan frasgamu o amgylch y tŷ, ac yn ymarfer cyfweliadau dychmygol y dyfodol wrth olchi’r llestri – megis Jimmy Rabbitte yn y ffilm “The Commitments”! Ond wrth gwrs, gyda “me being me” fel mae’r dywediad yn Saesneg, doedd hi ddim yn hir, wedi i mi gael cyfle i synfyfyrio ychydig, nes dechreuais hefyd dychmygu’r posibiliadau dystopaidd hefyd, gan gynnwys gwingo wrth i bobl trafod “yr hogan wirion ene oedd yn rwdlan am flynyddoedd yn y papur bro pob mis, gan feddwl fod hi’n gallu sgwennu – a hithau methu hyd yn oed siarad Cymraeg gweddus!” Es ati i boenydio’n hun: “Ydy fy Nghymraeg yn ddigon cryf i roi’r araith o flaen pawb? Fydd pobl yn gallu deall beth rwy’n ei ddweud? Fydd pobl eisiau clywed am fy ngwaith ymchwil neu yn hidio am fy ngherddi bach amrwd neu fy ngholofn wibbley-wobbley?!”
          Eniwe, fe ddaeth y diwrnod proffwydol o’r diwedd ac roeddwn wedi paratoi araith roeddwn yn eithaf hapus ag hi. Printiais ‘hand-outs’ o’r hyn roeddwn am ddweud, ynghyd a delweddau perthnasol, megis: Gath ‘Saber-toothed’; darlun yn esbonio effeithiau’r ymateb ‘cwffio neu hediad’ (fight or flight) ar y corff; paentiad ‘Lluest y mynydd’ gan Valériane Leblond; hunan-avatar; coedwig brydferth yn yr Unol Daleithiau; ac, wrth gwrs, ffotograff o Arthur Conan Doyle! (Wnâi adael i chwi synfyfyrio ar y cysylltiadau posib!) Ac felly y bu hi, ar noson oer ym mis Chwefror, gyrrais o fy hafan yng nghefnwlad Cilgwri, i Wrecsam, tref fy mhlentyndod, i gyflwyno fy ngwaith hyd yma ynghyd a’n syniadau blagurol. Yn ôl fy arferiad, roeddwn wedi cyrraedd rhyw ddwy awr yn fuan ac wedi anghofio dod a fy mrechdanau hefo fi (roeddynt dal yn y rhewgell adre). Parciais ynghanol Wrecsam a cherddais ar draws y stryd i siop sglodion “Eddie’s” lle fuon ni’n mynd pan oeddwn yn blentyn. Synnais pan welais pa mor swish oedd y lle erbyn hyn – roeddent wastad wedi gwerthu sglodion bendigedig ond roedd bwydlen eang ganddynt rŵan, gan gynnwys “Battered Mars Bars”, ac roedd yna ystafell gyda seddi i chi cael bwyta ene – yn hytrach nag ei bwyta o’r papur yn y car, fel roeddwn wedi bwriadu gwneud. Prynais lond hambwrdd o fwyd blasus, gan gynnwys un o’r Mars Bars, a setlais mewn cornel i ddarllen trwy fy araith i gael fy hun ‘in-the-zone’ cyn mynd yn ôl i’r clio a gyrru o gwmpas y gornel i Westy’r Belmont, lle mae’r gymdeithas yn cynnal ei chyfarfodydd pob mis.
          Roedd perchennog y gwesty yn ffeind tu hwnt a chefais groeso cynnes a thebot llawn te hyfryd. Euthum drwodd i’r orendy prydferth, gyda’i tho gwydr, dreser a chrochenwaith tlws, a dodrefn pren tywyll gyda lliain bwrdd gwyn wedi ei brodio. Roedd hi’n osodiad llaes a braf a dechreuais deimlo’n fwy hyderus am yr hyn yr oeddwn ene i’w wneud. Dosbarthais yr hand-outs o amgylch y bwrdd gan osod y seddi mor gyffyrddus a gallaf o amgylch un o’r byrddau mawr – gan groesi bysedd fyddai ddigon o bobl yn dŵad fel na fyddai’r bwrdd yn ymddangos yn rhu wag. Ymhen ychydig funudau fodd bynnag, mi wnaeth y ‘gynulleidfa’ dechrau cyrraedd ac mi roedd llawer o bobl hyfryd, garedig (a cydymdeimladol) wedi dŵad draw i wrando arnaf. Wedi i ni gyd setlo o amgylch y bwrdd mi wnaeth Aled Lewis Evans darllen ‘bio’ amdanaf yr oeddwn i wedi helpu i’w paratoi (yr hubris ynde!) ac, ar ôl rhyw dwy eiliad o banig, dechreuais mewn llais bach swil, sigledig, i gyfleu fy araith. Yn ddigon ysmala, unwaith i mi gychwyn roeddwn yn oke a dechreuai fy hunan hyder dyfu; ffeindies fy hun yn ymlacio ac yn mwynhau fy hun wrth sylwi ar ymateb pawb o amgylch y bwrdd, a oedd yn ymddangos fel ei bod nhw’n ymddiddori yn yr hyn roedd gennyf i’w ddweud. Wedi i mi orffen siarad cawsom drafodaeth ddiddorol, bleserus dros ben, gyda phynciau yn cynnwys amrediad rhwng: myfyrdod Bwdhaidd; esblygiad yr NHS; deuoliaeth meddwl-corff Cartesaidd; a synfyfyrion lenorion adnabyddus, megis R.Williams Parry a John Donne, ar y mater sobr o farwolaeth, a’r emosiynau wrth ei bendroni (mwy am hyn rhywbryd arall efallai, wedi i mi ymchwilio’r syniad yn drylwyr!)
          Os wyf am adeiladu gyrfa yn y byd academaidd, neu’r byd llenyddol – neu’r ddau wrth gwrs, mae’n hanfodol fy mod yn dod i arfer, ac i fwynhau, siarad yn gyhoeddus am fy ngwaith ac am faterion cysylltiedig. Mae gen i un neu ddau o ‘gigs’ ar y gweill blwyddyn yma, gan gynnwys cynhaliad academaidd yn Denmarc ym mis Mehefin ac, efallai, slot yn un o’r nosweithiau Cymraeg/ dwyieuthog, megis: ‘VIVA VOCE’ – noson meic agored llenyddol, fydd yn cymryd lle yn y canolfan Cymraeg newydd: Y Saith Seren yn Wrecsam. Rwy’n edrych ymlaen at y sialens ac ni allaf feddwl am gychwyn gwell, na chroeso mwy cefnogol, na’r hyn y cefais gan y Gymdeithas Owain Cyfeiliog, draw yng Ngwesty’r Belmont yn Wrecsam. Yn sgil hyn, sountrack y golofn yw “Feels like Home to me” gan Chantal Kreviazuk, gan i’r Cymdeithas Owain Cyfeiliog estyn y fath croeso nes i mi deimlo’n gartrefol unwaith eto yn nhref fy mhlentyndod, er gawethaf fy mhryderon am fy Nghymraeg chwithig. Mae’r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis ar nos Iau am 7 o’r gloch yr hwyr. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth mynychu’r cyfarfodydd a gallaf hollol argymell y profiad! Am fwy o fanylion cysylltwch ag Alun Emanuel ar y ffon: 01978 359846, neu cysylltwch ag Aled Lewis Evans trwy Facebook neu gyrrwch e-bost at: aledlewisevans@yahoo.co.uk

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Mawrth 2012 (Rhifyn 150)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, March 2012 (Issue 150).

          Rhyw ddeng mlynedd yn ôl bellach, gwisgais fy het du, sgwâr, academaidd, a’r gŵn glas tywyll gyda choler llwyd, ac eisteddais yn swil hefo fy nghyd myfyrwyr yn yr Eglwys cadeiriol, gothig draw yn Lerpwl. Roedd y tair blynedd o astudio ar gyfer fy ngradd wedi gwibio heibio a dyma fi ar drothwy fod yn ‘graddedig’ a derbyn fy nhystysgrif gan ddeon y gyfadran…a’r unig beth ar fy meddwl oedd poeni fuaswn yn baglu wrth groesi’r llwyfan a gwneud ffŵl mawr o’n hun o flaen y dyrfa ddysgedig! Ni ddigwyddodd hyn diolch byth ac i ddweud y gwir roedd y seremoni ychydig fel cludfelt y ‘generation game’ gyda’r rhestr enwau yn cael ei ddarllen yn heb saib, a ni gyd yn brysio oddi ar y llwyfan fel plantos yn clirio gwaelod y sleid yn y parc rhag i ni gyd baglu dros gynau ein gilydd a landio’n un swp ddau-y-geiniog wrth draed yr Is-ganghellor. Cyn pen dim roeddwn allan yn yr awyr iach yn cydio fy nhystysgrif yn ei ‘punch-pocket’ ddiseremoni ac yna’n ciwio am oriau i gael tynnu fy llun.

          Ta waeth, cychwynnais, wedi’r diwrnod proffwydol hyn, ar genhadaeth i gerfio gyrfa i fy hun fel ‘academydd’, gan gychwyn gyda dwy flynedd sabothol yn yr undeb myfyrwyr cyn symud i mewn i waith ymchwil. Fel bues yn sôn yn fy ngholofn gyntaf un, cefais epiffani wrth weithio fel ymchwilydd, wel, tra oeddwn adre yn fy ngwely yn rhu sâl hefo ffliw i fynd i fy ngwaith fel ymchwilydd, gan i mi ailddarllen y nofel ‘Wide Sargasso Sea’. Datblygais obsesiwn gyda Jean a’i gwaith, gan hefyd ailgydio yn fy mreuddwyd plentyndod o fod yn awdures. Cychwynnais ysgrifennu cerddi a straeon byr a’i hanfon at eisteddfodau a chylchgronau llenyddiaeth, gan gynnwys rhai trwy gyfrwng y Gymraeg. Fuodd fy niffyg meistrolaeth o fy mamiaith yn gryn rwystr ac mae wedi achosi nifer o sefyllfaoedd chwithig i mi, ond mae hyn yn ddigon teg ac yn ‘fixable’ (i rai graddau beth bynnag) os astudiaf yn ddygn. 

          Ond heblaw’r mater o gywirdeb iaith, yr wyf wedi cael un neu ddau o feirniadaethau hallt dros y blynyddoedd, gan gynnwys gwrthodiad hynod gan y cylchgrawn ‘Taliesin’ – ar sail y ffaith “nad ydynt yn gerddi”. “Ys gwn i beth ydyn nhw felly?” sidrais… “Shmerddi efallai?” Eniwe, wedi i mi adlewyrchu ar y mater, a darllen rhai o’r cynigion cyhoeddedig yn y gyfrol ene o ‘Taliesin’, penderfynais, braidd yn hunan-addoliadol, fod gwell gen i fy ngherddi fel ag yr oedden nhw a doedd ddim awydd gen i newid fy steil er mwyn cael fy nerbyn gan yr ysgolheigion yma – dysgu cywiro fy iaith ia, ond nid newid fy steil. Teimlais yn gryf am y peth ac felly, gwnes beth fysai unrhyw nyrd gwerth ei halen yn ei wneud, sgwennais gerdd amdano! Roeddwn yn hapus a’r gerdd ac mi anfonais at gylchgrawn ‘Tu Chwith’ lle cefais gyhoeddi un o fy ngherddi cynt – ac yn ddigon ysmala dyma nhw’n ei chyhoeddi! Rhaid cyfaddef i mi deimlo braidd yn hunanfoddhaol am y ffaith fod fy ngherdd am wrthod newid er mwyn plesio eraill…wedi plesio rhywun ac wedi ei gyhoeddi!

            Yn y cyfamser, cychwynnais fy noethuriaeth yn 2006 ac, degawd wedi i mi graddio y tro cyntaf, ac ar y diwrnod cyn noswyl y Nadolig, es draw i Lerpwl i gyflwyno fy nhraethawd doethuriaeth, yn ei chlawr ‘bottle-green’ gyda llythrennau boglynnog aur, ac felly yn hawlio fy nheitl newydd fel ‘Dr’ ac yn sicrhau fy sedd yn y seremoni graddio nesaf yn yr haf ‘cw. Fodd bynnag, cyn i mi cael cyflwyno’r traethawd gorffenedig, mi roedd rhaid i mi wneud rhai newidiadau bychain i fy ngwaith gwreiddiol er mwyn plesio’r arholwyr, gan gynnwys un neu ddau o bethau nad oeddwn yn hollol cytuno a hwy; mi roedd hyn yn brofiad gostyngedig a ddaeth a’r gerdd (neu shmerdd!) yma i fy meddwl unwaith eto, yng nghyd a’r profiadau a achosai i mi ei sgwennu. Synfyfyriais dros weledigaethau fu’n cyseinio a rheini gan Willy Russell yn ei ddrama ‘Educating Rita’, am dderbyn syniadau sefydledig a cholli llais unigryw…ond eniwe, dyma yr oedd rhaid ei wneud er mwyn cael dod trwy’r drws trwm, pren a lledr, ‘Harry-Potter-aidd’, i gymryd fy sedd gyda gweddill yr academyddion, wrth y bwrdd mawr bren yn y neuadd gyda’r nenfwd uchel…felly llyncais fy malchder a chyflawnais y cywiriadau. Wrth i 2012 gychwyn felly, yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael graddio am yr ail dro, a hefyd at gael fwy o amser i ymroddi i fy ngwaith creadigol, ynghyd a rhyddid creadigol yn fy ddau faes o ddiddordeb. Wrth feddwl am ‘Soundtracks’ posib i’r golofn tro hyn, tybiais byddai ‘My way’ gan Frank Sinatra yn reit addas. Os hoffech clywed fwy am fy ngwaith ymchwil ar gyfer y doethuriaeth ac i fy ngholofn, dewch draw i’r cyfarfod Cymdeithas Owain Cyfeiliog ar Chwefror yr 2il am 7yh, yng ngwesty’r Belmont, Wrecsam. Dyma fy ngherdd (neu shmerdd!), gobeithiaf y byddech yn ei fwynhau:

 

Lladd fy ngherddi

Yn creu, yn gweu, y geiriau’n delweddi,

ond yn ôl y beirniaid, nid ydynt yn gerddi -

sy’n canu, na’n dangos dealltwriaeth gan fardd,

ag o’r cylch breintiedig caf fy ngwahardd.

 

Fod fy ngwaith yn amrwd, nid oes amheuaeth,

a ni fydd yn llwyddo yn yr un gystadleuaeth,

ond i mi, o leiaf, maent yn llawer mwy siriol,

na ‘r cerddi a dyfarnir ei bod yn rhagorol.

 

Mae’r cerddi cyhoeddedig sy’n canu i chi,

Yn anffodus yn ddiflas ac yn ddirgelwch i mi.

Delwedd ni ddaw, dim ond geiriau mydryddol,

Wedi ei gosod yn fedrus mewn siâp arddulliadol.

 

Efallai mai anwybodaeth o’r grefft o farddoniaeth,

Sy’n rhannol gyfrifol am fy niffyg dealltwriaeth,

Ond yn wir i chi dyna yw’r profiad cyffredin,

Gan na hastudiwyd mynegiant ymysg fy nghynefin.

 

Ac felly rwy’n sidro fod gwell i mi beidio,

Newid fy steil rhag i mi niweidio,

yr hyn sy’n arbennig i’m waith wyddost ti,

y cerddi pob dydd sydd yn bleser i mi.

  

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchgrawn ‘Tu Chwith’ (Cyfrol 30, Mawrth 2009, Thema: ‘Na!’)

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Chwefror 2012 (Rhifyn 149)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, February 2012 (Issue 149).

Un o’r pleserau ychwanegol ac annisgwyl sydd wedi dŵad o ganlyniad i mi sgwennu’r golofn hon yw’r cyfle i gysylltu â llenorion, beirdd ac arlunwyr rwy’n edmygu wrth i mi ymofyn caniatâd i ddefnyddio ei lluniau a delweddau i gyd fynd a’r erthyglau. Er enghraifft, pan ysgrifennais am y syniad o ‘genre o nostalgia’, cefais fy ysbrydoli gan nofel ‘début’ Mari Strachan: The Earth hums in B Flat; ysgrifennais at Mari i ofyn a chaf gynnwys delwedd o’i nofel ac roeddwn wrth fy modd pan, nid yn unig ces y caniatâd gan Mari, ond fuon ni’n dau wrthi’n seiber-sgwrsio am bob dim dan haul, gan gynnwys ei nofel gerllaw: Blow on a dead man’s embers. Rhai misoedd yn ddiweddarach, tua’r gwanwyn flwyddyn yma, dyma fi’n derbyn e-bost annisgwyl gan Mari i ddweud fod ei ail nofel ar fin cael ei chyhoeddi, ac roedd hi’n cynnig gofyn i’w cyhoeddwyr anfon copi cyn-cyhoeddi i mi! O, yr anrhydedd! Roeddwn wrth fy modd a dderbyniais yn syth bin…gan sarsio na fyddaf yn cael amser i’w ddarllen tan ar ôl i mi cyflwyno fy noethuriaeth ym mis Mai.

Wedi i mi cwblhau’r ddoethuriaeth es am wyliau i dŷ fy rhieni yn Sbaen, ac wrth i mi cychwyn ymlacio ar yr awyren dyma fi’n estyn fy nghopi ecscliwsif, ddim-ar-werth-eto o fy llawfag, ei ddadlapio’n ofalus o’i gorchudd gwarcheidiol o bandana coch, ac yna cychwyn ei darllen. Ac wel, dyma chi andros o lyfr da – roeddwn wrth fy modd a’i nofel gyntaf a ni siomais hefo’r nesaf ‘ma! Heb eisiau datguddio ormod, gallaf ddatgelu mai stori am ryfel yw hon, ond nid bwrlwm a chynnwrf y frwydro, megis Star Wars, neu ysbïwriaeth James Bond,  na ychwaith canlyniadau cymdeithasol macro ar wlad a chymunedau – megis ail adeiladu dinasoedd; golwg yw hon ar yr ochr micro, dynol, o sut mae rhyfel yn effeithio ar unigolion a theuluoedd, a’i pherthnasau cymdeithasol o ganlyniad. Wedi ei sgwennu yn yr amser-presennol, mae Mari unwaith eto wedi creu byd credadwy i’n amsugno i’r gorffennol – diwedd y rhyfel byd cyntaf i fod yn fanwl, lle mae cymeriadau cymhleth wrthi’n dadansoddi profiadau erchyll ac yn cwato cyfrinachau tywyll.

Mae Non a Davey Davies yn byw fel estronwyr dan yr un nen ers i Davey  ddychwelyd o’r rhyfel. Yntau’n ddioddef o ôl-fflachiau ac yn bihafio’n oeraidd a pell, tra bod Non yn benderfynol o fynd at wraidd yr hyn sydd wedi achosi i’w cymar ailadrodd yn ddychmygol ddigwyddiad o’r rhyfel drosodd a drosodd, gan cuddio o dan fwrdd y gegin ai llygaid mewn ‘thousand-yard-stare’. Os yw hyn yn ei hun yn swndio’n llinyn-stori ddigon cyffredin yna meddyliwch eto! Mae’r llyfr bach yma yn llawn troellau a syndod – ac mi wnes i, ar fwy nag un achlysur, ebychu’n out-loud am yr hyn yr oeddwn wedi ei ddarllen, megis: “Na!” a “wel, wel, wel”. Dechreuais gysyniadau’r golofn seiliedig, gan adlewyrchu ar ffilmiau cyfarwydd, megis Rambo: First Blood sy’n dangos ‘veteran’ o ryfel Fietnam yn bwhwman trwy British Columbia gan gael ei drwgdybio a’i erlid wrth iddo straffaglu i atgyfannu i fywyd sifiliaid.

Mae diddordeb gen i mewn effeithiau cymdeithasol a seicolegol rhyfel gan ei fod yn trawstorri a fy ymchwil doethurol ar ‘Medically Unexplained Symptoms’ – er enghraifft ‘shell-shock’ a ‘Gulf War Syndrome’. Yn ogystal mae’r syniad o ddewis bywyd milwrol yn ddiddorol i mi fel cymdeithasegwr – beth yw’r atyniad? Sut ydynt yn delio a’r ofn o gael ei lladd, anafu neu ei charcharu? Es ati felly a frwdfrydedd i wylio’r clasuron am ryfel, megis y broses ‘de-humaising’ yn y ffilm ‘Full Metal Jacket’, a dechreuais sidro fy hun yn ‘chydig o arbenigwr.

Un o’r ffilmiau mwyaf dylanwadol yn nhermau ein syniadau ynglŷn â rhyfel (fuaswn i yn dweud) yw: ‘Apocalypse now’; wrth i ryfel Fietnam cyrraedd ei uchafbwynt mae Capten Benjamin Willard (Martin Sheen) yn pwdu yn ei hystafell gwesty yn Saigon – yn aros am genhadaeth (mission). Rydym yn clywed meddyliau Capten Willard fel ‘voice-over’ ac mae e’n synfyfyrio: I’m still only in Saigon… Every time I think I’m gonna wake up back in the jungle. When I was home after my first tour, it was worse. I’d wake up and there’d be nothing. I hardly said a word to my wife, until I said “yes” to a divorce. Mae’n ddiddorol sut mae hyn yn cyseinio i raddau a thema nofel Mari.

O’r diwedd mae Capten Willard yn cael cenhadaeth i hwylio’r afon Nyung i lofruddio ‘green beret’ o’r enw Colonel Kurtz (Marlon Brando) sydd wedi ei yrru’n wallgof gan arswydon ryfel, ac sydd y nawr yn byw fel rhyw fath o Feseia gyda byddin ei hun yn y jyngl. Wrth i Gapten Willard nesáu at leoliad Kurtz, mae ef ei hun yn dechrau troi’n fwy a fwy tebyg i’r dyn y cafodd ei yrru i’w ladd. Cafodd sawl diweddglo ei ffilmio, pob un yn ddramatig, gydag un wedi ei selio ar y diweddglo yn y llyfr ‘Heart of Darkness’ (y mae’r ffilm yn seiliedig arni), gyda’r awgrym fod Willard yn lladd Kurts ond yna yn cymryd ei le. Beth bynnag, cyn i Willard ei ladd mae Kurtz yn rhoi monolog diddorol am ryfel, arswyd a gwallgofrwydd:ad feedbackMae’r

“I’ve seen horrors… horrors that you’ve seen. But you have no right to call me a murderer. You have a right to kill me. You have a right to do that… but you have no right to judge me. It’s impossible for words to describe what is necessary to those who do not know what horror means. Horror… Horror has a face… and you must make a friend of horror. Horror and moral terror are your friends. If they are not, then they are enemies to be feared. They are truly enemies!”

Mae hyn yn ddiddorol gan ei fod yn mynd at wraidd y ffenomenon: yr arswyd. Dim ots pa ryfel na pha oes sydd dan sylw – arswyd natur ddynol, mor hyll, sy’n achosi ymatebion y cymeriadau yma. Mae’r tair esiampl uchod yn ymwneud a rhyfel Fietnam ond yn tryfalu’n berffaith a nofel newydd Mari, sydd yn amlwg wedi ei archwilio’n drylwyr.

Felly roedd y golofn yn siapio’n reit dda a fynnai’n llawn arsylliadau difyr i’w cynnig. Yna, roeddwn ar y trên yn dychwelyd o Lundain, ac eisteddai dyn cyferbyn i mi. Yr oedd newydd ddychwelyd o Afghanistan - ‘sniper’ – yn y cnawd! Siaradai am yr hyn yr oedd wedi ei weld yno, a sut roedd pethau wedi newid yn y lluoedd arfog ers iddo gychwyn rhyw ugain mlynedd yn ôl – gydag iawnderau dynol yn newid y broses hyfforddiant tu hwnt i bob adnabyddiaeth. Yr oedd ar ei ffordd i weld ei ffrind yn yr ysbyty a oedd wedi colli ei llaw-reiffl a’i ddwy goes dros y pen-glin oherwydd ‘IED’ (Improvised Explosive Device). Sylweddolais mewn chwinciad fy mod yn gwybod y nesaf peth i ddim am ryfel, fod fy holl syniadau wedi ei seilio ar y ffuglen, a bod y realaeth yn llawer iawn fwy erchyll nag oedd bosib i mi dychmygu. Cynyddodd fy edmygedd felly i’r ysgrifenwyr, fel Mari, sy’n mynd ati i ymchwilio ac i ysgrifennu am y pwnc sensitif, cymhleth yma.

Felly os ydych yn chwilio am lyfr diddorol i roi fel anrheg Nadolig flwyddyn yma, edrychwch dim pellach – allaf hollol argymell y nofel hon; ac os ydych yn chwilio am elusen i’w chefnogi, yna sidrwch: Help for Heroes, sef elusen Brydeinig sy’n ymgyrchu am amodau gwell ar gyfer milwyr sy’n dychwelyd o ryfel. www.helpforheroes.org.uk

I ddarllen cyn-colofnau Synfyfyrion Llenyddol, a gweddill fy nghynigion llenyddol, ewch i sbïo ar fy mlog/ wefan: www.saralouisewheeler.wordpress.com 

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Rhagfyr 2011 (Rhifyn 148)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, December 2011 (Issue 148).

          Fy enw i yw Sara Louise Wheeler a fi yw Miranda Hart y sin-llenyddiaeth-Gymraeg. Rŵan fy mod wedi rhannu’r datguddiad yma hefo chwi gadewch i mi egluro. Dros y misoedd diwethaf yr wyf wedi bod yn mwynhau’r rhaglen  ‘Miranda’ am hogan yn ei thridegau sydd yn andros o neis ac yn trio’n galed iawn, ond heb lwyddo gwneud rhyw lawer a’i bywyd hyd yma. Un o’r problemau fwyaf sydd ganddi yw ei dueddiad unai i ddweud y peth anghywir, neu i ganu’r peth anghywir – mewn sefyllfaoedd lle nad oedd galw am ganu, neu i faglu a disgyn mewn ffordd anhygoel o ddramatig gan ennyn dirmyg a beirniadaeth am ei phen. Ac eto, mae yna rywbeth…gwahanol am Miranda sy’n ei gwneud hi’n cymysgiad unigryw o sirioldeb ac anobeithrwydd.

          Ond beth, medde chwi, sydd gan y rhaglen BBC yma i’w wneud a’r Eisteddfod genedlaethol 2001? A oedd Miranda Hart ene tybed, yn cadeirio rhyw sesiwn yn y babell lên efallai? Wel nag oedd wrth gwrs, a doedd ddim angen iddi fod oherwydd roeddwn i, bili-ffŵl yr ŵyl, ene yn ei lle hi! Chi’n gweld am fisoedd mae fy ngŵr a finnau wedi synnu ar y tebygrwydd rhwng fy hun a’r cymeriad Miranda, o’i dueddiad i rwdlan pan mae hi’n teimlo’n swil hyd at ei penchant am gacennau a ‘box-sets’ o ‘Midsomer Murder’! Ond yn ystod y ‘steddfod daeth fy mherfformiad fwyaf amlwg a fy ‘Miranda-moment’ gorau hyd yma!

          Efallai cofiwch o’r erthygl mis diwethaf fy mod wedi cael y fraint o gadeirio sesiwn yn y babell lên: “Y stori tu ôl i’r gân”, sef rhaglen lle byddai pedwar cerddor yn perfformio cân yr un ac yna yn esbonio sut wnaethon nhw ei sgwennu. Roeddwn wrth fy modd hefo’r syniad a fues ati dros yr haf, wedi i mi orffen fy noethuriaeth, yn paratoi fy araith, gan gynnwys hanesyn bach digri am Don McLean sydd, hyd heddiw, wedi bod yn amharod i rannu unrhyw esboniad ynglŷn â thelynegion ei gân enwog ‘American Pie’, gan ateb y cwestiwn ynglŷn â “beth mae’r gân yn ei olygu” trwy jocian: “Mae’n golygu na fyddaf angen gweithio byth eto!”

          Ar y diwrnod ei hun mi roeddwn wedi cyrraedd mewn digon o bryd, wedi gwisgo mewn ffrog ddel ‘50s’ a colur-air-brush, ac mi roedd y teulu Edwards i gyd wedi dŵad draw i ddangos ei chefnogaeth, gan gynnwys y Pinto-Edwards bach! Mi roedd Christina ac Isabella (fy nithoedd pump a dwy oed) wrth ei boddau pan dynnais fy sgidiau pinc ‘peep-toe’ o’i bocs a’i gwisgo yn lle fy ‘fflip-fflops’, a chamais i’r llwyfan gan atgoffa fy hun yn barhaus mai dim ond am ddwy funud y buaswn yn siarad, a’r cerddorion oedd ffocws y sesiwn beth bynnag. Ond roeddwn dal yn hynod o nerfus a theimlais fy hun yn cochi wrth iddi nesáu at y foment lle byddaf actiwli’n gorfod cychwyn siarad.

          Serch hyn llwyddais i draddodi fy araith fach swil a chawsom berfformiadau gwych gan y cerddorion; hiraethodd Daniel Lloyd am anwyldeb cymuned Rhosllannerchrugog – mewn cân a oedd yn cynnwys y geiriau ‘nene’ ac ‘ene’ A chyfeiriad at y ‘stiwt’!; soniodd Geraint Lovgreen am garwriaeth gymhleth, ffugiol draw ym Mhonciau, wedi ei hysbrydoli gan y cân ‘Up the Junction’ gan y band ‘Squeeze’. Swynodd Arwel Tanat Jarvis gyda chân am gwm Tryweryn – a hynna er gwaetha’r ffaith fod ei gitâr wedi rhoi’r gorau iddi wrth iddo gychwyn – gan ei orfodi i gario ‘mlaen ar gitâr Daniel Lloyd! Daeth elfen o ddrama roc a rôl i’r pnawn o’r ffaith fod Gwilym Morus dal ar ei ffordd o Firmingham pan gychwynnon ni’r sesiwn, a chamodd i’r babell lên eiliadau cyn roedd angen iddo gychwyn perfformio! Ond fel y ‘seasoned rock star’ ydyw, ni phoenodd am hyn o gwbl a berfformiodd cân ‘blues’ am hanes cau Woolworths…wir yr!

         Felly er nad oeddwn wedi ymateb rhyw lawer i’r perfformiadau, gwneud sylwadau meddylgar rhyngddynt, na hyd yn oed diolch i’r perfformwyr wedi iddynt orffen, mi roedd pethe yn mynd yn oke…nes i ni gyrraedd hanner ffordd trwy gân Gwilym a dyma fi’n meddwl “beth sy’n digwydd nesaf?” Ceisiais gofio’r diwrnod cynt pan oeddwn yn saff yn y gynulleidfa…  sut oedd y sesiynau wedi cau? Dwrdiais fy hun – pam nad oeddwn wedi meddwl am hyn yn gynharach?

          Strymiodd Gwilym am y tro olaf a sefais ar fy nhraed, gyda fy nghoesau fel jeli o dannaf. Cerddais yn sigledig at y meic, yn chwys domen, ac mewn llais bach llygoden dechreuais rwdlan, tra hefyd yn ceisio gofyn i Aled yn rhes blaen y gynulleidfa beth oedd yn digwydd nesaf…a dyna pan ddatblygodd deialog fuaswn, oni bai mai ei bod hi’n Cymraeg-specific, yn ei hanfon at Miranda Hart fel sketch-fodder! Atebodd Aled, ond nid oeddwn yn medru clywed yn iawn. Trïodd eto ond doeddwn dal ddim yn ei chael hi…yna meddyliais mai ‘coffi’ oedd o wedi ei ddweud… “coffi?” gofynnais, “na meddodd…yna clywais y cerddorion tu ôl i mi yn chwerthin a sibrydodd Gwilym mai “wedi gorffen” oedd y neges. O’r ffasiwn gywilydd! Fues wrthi’n ailchwarae hyn i gyd am ddyddiau wedyn yn llawn hunan-casineb gan ddifaru’n enaid fy mod wedi bod mor ffôl ag i feddwl buaswn yn gallu fod yn gyflwynydd heb wneud llanast o’r cwbl.

          Ond yn ddiddorol iawn yr wyf y nawr yn gallu ei chofio ai thrafod heb wingo gormod, a hyd yn oed yn gweld yr hiwmor ynddi…yr hyn a welodd fy mrawd ar y diwrnod ei hun ynte! Yn wir yr wyf wedi cychwyn yn ddiweddar, yn fy aeddfedrwydd fel dynes ‘ail-chwartel’ (yn-ei-tridegau), i dderbyn y cwirciau yma yn fy mhersonoliaeth sydd yn arwain at gymaint o ffwlbri tebyg, ac i gymryd agwedd llai angerddol tuag at fy mywyd…a hyd yn oed, efallai, i hoffi fy hun fel yr ydw i, yn hytrach na phoeni am beth ddylwn i fod. Ac efallai dyma yw athrylith y comedi ‘Miranda’ – y ffaith fod Miranda yn ‘buffoon’, a braidd yn anghyffredin, ac yn byw mewn tryblith-o’i-gweithredau-ei-hunan…ond fod hyn, mewn gwirionedd, yn oke; mae yna le yn nhapestri cyfoethog bywyd am ffwlbri i gyd-fynd a’r ‘chic’, ac ysgafnder i gyd-fynd a’r difrifol…yr ymdrech sy’n bwysig, a’r ewyllys da. Efallai fy mod wedi cyrraedd y doethineb yma ar ben fy hun, yn sgil fy mhrofiadau ac ymdrechion…ac efallai felly fod fy mrawd yn fwy doeth nag oeddwn i wedi sylweddoli? Ond beth bynnag, mae gwylio anturiaethau Miranda wedi bod fel therapi i mi dros y misoedd diwethaf, a braf yw cael rhywbeth hwylus i’w wylio gyda’r nos yn hytrach na’r holl raglenni realaeth ddiflas sydd wrthi’n lledaenu fel pla dros bob sianel dyddiau yma… ahem. Eniwe, wedi i mi adlewyrchu arni, rwy’n falch i mi drio ac rwy’n sicr i mi ddysgu llond o’r profiad – a ddim jest i gofio os oedd yna egwyl neu beidio, fel plagiodd fy mrawd!

          Yn ogystal â’r sesiwn yma fues yn y babell lên llond, ac yn ôl pob sôn daliodd y camerâu fy ‘Jimmy Carr laugh’ wrth i mi fwynhau jôcs Aled Lewis Evans am finiau yn siarad Cymraeg yn ardal Wrecsam! Cefais hefyd y fraint o fod ar y llwyfan yn ystod seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen draw yn y babell binc; sgwrsiais hefo un o newyddiadurwyr ‘Golwg’ am Y Clawdd a chefais ‘mench’ yn yr erthygl rhedwyd amdani; collais y car o leiaf tair gwaith yn ystod yr wythnos; gwariais gryn dipyn o arian ar fwyd a nic-nacs, a chefais ddiwrnod hunllefus y diwrnod cyn yr un a soniaf amdani yma…ond fwy
am y straeon yma rhywbryd arall…unai yn y golofn yma neu efallai fel rhan o’r casgliad o straen fer yr wyf wrthi’n ei pharatoi. Mi roedd hi’n eisteddfod fendigedig, a braf oedd cael gweld cymaint o bobl yr ardal ene trwy gydol yr
wythnos.

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Hydref 2011 (Rhifyn 147)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, October 2011 (Issue 147).

          Fel sawl un ohonoch mae’n siŵr, does dim byd gwell gennyf ar ddiwedd wythnos flinedig na gwrando ar ychydig o gerddoriaeth, efallai dros glasiad o win, gan sidro “tybed beth oedd ar feddwl y cerddor pan sgwennon nhw hyn?” Gwaetha’r modd y mae fwy a fwy o ganeuon cyfoes dyddiau yma yn tueddu i gael llai o stori fel man cychwyn, wedi ei gynhyrchu fel ag y maen nhw gan mogwlau y sin pop i’w canu gan bobl uber-ifainc, deniadol mewn gwisgoedd ffasiynol at gyfeiliant sydd wedi ei syntheseiddio’n slic ond heb lawer o deimlad nag ystyr. Ahem, eniwe…Mae yna dal ddigonedd o ganeuon cyfoes fodd bynnag sydd yn amlwg yn meddu ar stori ddifyr, sydd un ai’n bersonol i’r cerddor neu yn hytrach yn rhyw fath o naratif, ac yr wyf wedi treulio oriau hwylus dros y blynyddoedd yn ceisio dehongli telynegion dirgel.

            Un o fy hoff ganeuon er enghraifft yw “If you tolerate this your children will be next” gan y Manic Street Preachers. Cafodd ei rhyddhau nôl yn 1998, y flwyddyn symudais i Lerpwl er mwyn astudio fy ngradd, ac er nad oeddwn rili yn deall am beth oeddent yn son, mi oeddwn wedi gwneud hi ar delynegion anghyffredin, yn enwedig y llinell: “so if I can shoot rabbits then I can shoot fascists”. Nawr te,  nid oedd y we nôl yn y nawdegau cweit beth yw hi heddiw, felly pan es ati ar y pryd i bori’r we am ystyr y geiriau ni chefais lawer ymhellach na’r ffaith fod y grŵp wedi ei dylanwadu gan The Clash, a bod y cân yma wedi ei hysbrydoli gan y cân Spanish bombs. Ond dyddiau yma wrth gwrs mae gennym ni wikipedia a bloggiau i’n helpu, a hefyd mae llawer o gylchgronau a phapurau newydd yn cyhoeddi ei chynnwys ar y we. Felly wrth fynd ati i wneud y gwaith ymchwil i’r erthygl yma mi ddes o hyd i lawer o ffeithiau newydd am y cân ei hun a hefyd am  y digwyddiadau a phobl gysylltiedig.

            Yn ôl wikipedia, thema’r gân yw’r rhyfel cartref Sbaenaidd a delfrydiaeth y gwirfoddolwyr Cymraeg fuodd yn ymuno a’r ‘International Brigades’ i ymladd milwyr Franco nôl yn y tridegau. Daeth y teitl o un o’r posteri gweriniaethol lle ddefnyddiwyd ffotograff o blentyn wedi ei lladd gan fomiau’r cenedlaetholwyr i gyfleu’r rhybudd di-flewyn ar dafod. Ysbrydolwyd y  llinell am saethu cwningod a ffasgwyr gan sylw un milwr Cymraeg wrth iddo ymuno a’r gweriniaethwyr, ac mi gafodd hyn ei dyfynnu’n wreiddiol yn llyfr Hywel Francis “Miners Against Fascism”. Mae hyn i gyd yn ddiddorol dros ben, ond mae dal cwestiynau gennyf, er enghraifft: pam fod “monuments put from pen to paper” yn mynd i droi’r adroddwr yn “gutless wonder”? A beth yn union yw ystyr y llinell: “Holes in your head today/ but I’m a pacifict”? Mae’n debyg gyda mwy o waith ymchwil ar y pwnc fuaswn yn gallu cynnig dyfaliadau, ond dim ond sgwenwr y telynegion fyddai’n gallu datgelu eu gwir ystyr.

            Fel graddedig Hanes a Chymdeithaseg, y mae cywilydd gen i gyfaddef nad oedd lawer o ymwybyddiaeth gen i ynglŷn â’r rhyfel cartref Sbaenaidd, a llai fyth am ymglymiad y Gymru ynddi. Fodd bynnag, pan es ati i drafod y mater hefo fy nhad ymddangosai fod llawer o’r Gymru wedi ymuno a’r gweriniaethwyr, gan gynnwys pobl leol i’r ardal; y mae hanes un milwr ifanc, o ardal Rhosllannerchrugog, wedi ei chofnodi ar wefan Gogledd-ddwyrain y BBC, sef hanes ‘Twm Sbaen’.

          Yn ôl gwefan y BBC, mi roedd ‘Twm Sbaen’, aka Tom Jones o Market Street, Rhosllannerchrugog, yn un o’r sawl gwirfoddolwr Cymraeg  a fuodd yn filwr yn yr ‘International Brigade’ adeg y rhyfel cartref Sbaenaidd. Cafodd ei gipio yn ystod y frwydr waedlyd yn 1938 ac, fel yr unig filwr o’i bataliwn i bara’n fyw, cafodd ei garcharu yn Zaragoza ac yna yn Burgos sef pencadlys Franco. Yn 1940 dychwelodd i’w pentref yma yng Ngogledd Ddwyrain lle ddysgodd nid yn unig fod ei rieni wedi marw, ond ei bod nhw wedi derbyn llythyr cyn iddynt farw, yn ei hysbysu’n anghywir fod Twm wedi ei lladd ar bridd Sbaenaidd yn ystod y rhyfel. Stori drist iawn, ac eto’n un swynol a diddorol i’w gofio sy’n mewngapsiwleiddio dewrder dynion ifainc y cyfnod yn sgil ei argyhoeddiadau. Ac mae hyn, ynghyd a neges cân y ‘Manics’, yn parhau i fod yn berthnasol i ni hyd heddiw.

            Nawr te, mae’n debyg y bydd darllenwyr rheolaidd y golofn wedi hen arfer erbyn hyn arnaf yn mynd allan ar dangiad cyn cyrraedd pwynt yr erthygl, ac felly y byddwch wrthi’n darllen yn amyneddgar, yn disgwyl i mi esbonio sut y mae’r rwdlan yma am y rhyfel cartref Sbaenaidd yn berthnasol i’r digwyddiadau yn y babell len wythnos y ‘steddfod. Wel, yn ystod y misoedd diweddaf cefais y fraint  o gael fod yn aelod o’r ‘Is-bwyllgor Llenyddiaeth’ i’r Eisteddfod ‘cw, ac felly’r cyfle cyffroes o fod yn rhan o’r broses i lunio’r rhaglen ar gyfer wythnos yr Eisteddfod yn y babell len. Yn amlwg ni allaf ddatgelu ormod o fanylion cyfrinachol, ond medraf eich sicrhau fod gennym wythnos fendigedig wedi ei pharatoi ar eich cyfer, gyda rhywbeth at bob dant – o’r deallusyn i’r fwy ysgafn a llaes; ar fy llw, cewch hwyl ac wythnos i’w gofio os ddewch draw i’r babell len blwyddyn yma.

          Un o’r slotiau newydd yw’r “Stori tu ôl i’r gân” (pnawn dydd Iau)  lle fydd pedwar canwr o’r sin cerddoriaeth Gymraeg yn datgelu’r straeon wrth wraidd un o’i chaneuon pob un. Wrth gwrs y mae hyn yn ddigon cyffroes ynddo’i hun, yn enwedig i fi gan fy mod yn gwybod pwy ydyn nhw’n barod (ond dwi’n cadw’n shdwm ar hyn, ‘sboilers’ ynde!) Ond ar ben hyn i gyd, a prin allaf goelio fy lwc, mi rwyf innau â’r anrhydedd o gael cyflwyno’r canwyr i’r llwyfan…yn y babell len ei hun…ew fysa Nain wedi bod mor browd ohonnaf!! Fel y gellwch ddychmygu, rwyf wrth fy modd ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at fy ‘début’ i’r sin-llenyddiaeth-Gymraeg! Rwyf wrthi’n gwneud y gwaith ymchwil iddo rŵan, yn ogystal a sidro’r mater difrifol o beth i’w wisgo…dwi’n credu dwi di setlo ar y ffrog ‘50’s’ hefo’r esgidiau pinc ‘peep-toe’ a bag-llaw i gyd-fynd…ond fydd hi’n dibynnu ar sut fydd y tywydd ar y diwrnod ynde!

          Eniwe, os ydych am gymryd mantais o’r cyfle prin i glywed canwyr yn trafod ei thelynegion yn hael ac yn agored, neu os ydych am fy nghefnogi wrth i mi wneud fy ‘début’, dewch draw i’r babell len pnawn dydd Iau. Yn ogystal, mae yna llawer iawn o ddigwyddiadau diddorol yn y babell len trwy gydol yr wythnos, a does dim ots os nad ydych wedi mynychu’r babell o’r blaen na chwaith os nad ydych yn ‘llenyddiaeth-buff’, mae croeso cynnes i bawb, felly dewch draw am ‘chydig o hwyl a sbri; am ragor o wybodaeth ewch at wefan yr eisteddfod: <http://www.eisteddfod.org.uk/> , prynwch raglen, neu jest piciwch draw i’r babell i weld beth sy’n mynd ymlaen…a welai chi ene!

 

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Gorffennaf 2011 (Rhifyn 146)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, July 2011 (Issue 146).

          Ers yn hogan fach fues wrth fy modd yn gwrando ar straeon Auntie Gwladys am ‘Dodo-nain’ a’i ‘globyn o gegin’ lle fyddai pawb yn ymgasglu wrth y bwrdd i fwyta’r bastai fale hefo ‘dop-y-llefrith’, a’r pwdin reis hefo glamp o groen arni. Chwaer Nain yw fy Auntie Gwladys, a Nain fy nhad oedd Dodo-nain. Fuodd pawb yn y teulu yn ei galw hi’n Dodo-nain a hefyd plant yr ardal a fyddai’n galw heibio’r tŷ yn gofyn “Gai fwyd dodo” (wel yn ôl chwedlau’r teulu ynde!) Tybiais mai rhyw fath o lysenw oedd ‘Dodo-nain’ a ni feddyliais holi amdani, nes i mi ddod ar draws y gair ‘Bodo’ un diwrnod yn cael ei ddefnyddio i olygu ‘modryb’. Dyna le roeddwn i, wrthi’n darllen ‘Yn ôl i Leifior’ (y dilyniant gwych i Gysgod y Cryman) a darllenais fod Greta Vaughan (chwaer Harri) am i Huw Powys (mab ifanc Harri) ei galw hi’n ‘Bodo’ yn hytrach na ‘modryb’. Wrth ddarllen ymddengys fod hyn yn air tafodieithol cyfystyr a’r gair ‘Modryb’.

          Yn chwilfrydig estynnais ‘Geiriadur yr academi’ a darllenais nesaf i ‘aunt’: modryb, anti, bodo, bopa, boba…ac yna ‘dodo’ wedi ei didoli o’r lleill tu ôl i acronym nad oeddwn yn ei ddeall. Estynnais ‘Geiriadur Gomer i’r ifainc’, ac eto mi roedd ‘bodo’ yn cael ei rhestru fel hyn: bodo, bopa; ffurf anwes ar fodryb neu hen wraig. Ond doedd ‘dodo’ ddim hefo nhw; yn wir yr unig gofnod i ‘dodo’ pan sbïais am y gair ar ben ei hun oedd esboniad am “aderyn mawr nad oedd yn gallu hedfan ac nad yw’n bod erbyn hyn”! Fodd bynnag, pan bostiais gwestiwn amdani ar maes-e.com fe ddaeth yn gliriach, diolch i “Siân” oracl Cymreictod y maes-seiber; datgelodd fod ‘Geiriadur prifysgol Cymru’ yn ei rhestru fel hyn: Bodo, Boda, Bopa = modryb neu hen wraig OND ‘Dodo’ = modryb. Tybiai Siân iddi glywed y gair ‘Dodo’ yn Sir Feirionydd, er mai ‘Antis’ ac ‘Wncwls’ neu ‘yncls’ oedd ganddi hi. Yn y cyfamser postiodd ‘Rhodri Nwdls’ i ddweud mai Bopa oedd ei nithoedd yn galw dwy fodryb yn Nhreorci, tra bod ‘Dodo’ yn cael ei ddefnyddio ger Harlech. Rhedon ni pôl piniwn (ar maes-e) ar y mater, a’r geiriau Saesneg neu ei deilliadau ddaeth ar ben y rhestr. A dyna le fuon ni’n synfyfyrio ar pam fod y derminoleg Saesneg wedi bod mor llwyddiannus yn disodli’r ffurfiau Cymraeg – a hynny a’r Cymry’n rhoi gymaint o bwyslais ar gysylltiadau teuluol?

          Ond beth oedd y stori yn nheulu ni felly? Ffoniais fy nhad i ofyn a oedd yna gysylltiad. Synnodd braidd gan ei fod ef hefyd wedi tybio mae enw anwes arni ydoedd ond, ar ôl ychydig o ridl-mi-ri, fe ffoniodd Auntie Gwladys a chwarddodd cyn ddatgelu’r hanes. Mi roedd Margaret Ann Jones (Dodo-nain) yn modryb i cefnder fy Nain – Elspeth. Mi roedd hithau yn galw hi’n ‘Dodo’ ac mi roedd hynna yn ‘gywir’. Mi roedd plant yr ardal hefyd yn ei galw hi’n ‘Dodo’ ac mi roedd hynna o leiaf yn gwneud synnwyr (yn yr un modd ac mae plant yn galw ffrindiau ei mamau neu staff meithrinfa yn ‘auntie’) ond mi roedd fy nhad a’i chefnder Elwyn jest wedi ‘joinio mewn’ gan fedyddio ei Nain yn ‘Dodo-nain’! Ac wrth gwrs mi aeth hyn o fod yn camgymeriad i fod yn enw anwes.

          Synnais felly fod y gair Cymreigaidd yma wedi cael ei golli o fewn un genhedlaeth a theimlais yn drist wrth feddwl am gymaint yr ydym wedi colli ein hiaith fel teulu – wedi’r cyfan, doedd dim gair o Saesneg gan fy nhad nes iddo gychwyn ei ddysgu yn yr ysgol yn ryw saith oed…a dyma le ydw i’r nawr, yn straffaglu i siarad Cymraeg gweddus ac yn defnyddio geiriau Seisnigaidd i ddisgrifio aelodau fy nheulu hyd yn oed! Penderfynais felly fod rhaid gwneud rhywbeth i atal y cyrydiad cyn iddi fynd ddim pellach.

          Wel erbyn hyn wrth gwrs mi roeddwn innau yn ‘modryb’ hefo nith fach annwyl, Christina, oedd ar fin cychwyn siarad â finnau’n benderfynol o ddysgu cymaint o Gymraeg iddi ag oedd yn bosib. Roeddwn wedi sidro trio dysgu’r gair ‘modryb’ iddi ond mi roedd hynna mor ffurfiol rhywsut a llawer iawn fwy lletchwith i’w ynganu na ‘auntie’. Ond mi roedd ‘Dodo’ yn disgyn yn hawdd o’r tafod a cyn pen dim mi roedd y fechan yn ei ynganu’n berffaith, yn y ffordd anwylaf bosibl, a finnau’n ‘Dodo’ hapus dros ben! Yna ym mis Rhagfyr 2009 ganned fy ail nith, Isabella, ac y mae hithau erbyn hyn yn gwybod mai fi ydy ‘Dodo’ ac mae’n ei ynganu’n swil pan maen fy ngweld i. Mae’r ddwy ohonynt mor giwt ac mae’r gair anwes yma yn fy llenwi a chariad pob tro rwy’n ei glywed nhw’n ei alw fe arna’i; gobeithiaf y byddent yn parhau i’w ddefnyddio gydol ei bywydau, o leiaf i gyfeirio ataf i, gan ei phasio i’w plant ei hunain yn draddodiad teuluol.

            Ers ryw flwyddyn a hanner bellach yr wyf yn byw yng Cilgwri hefo fy ngŵr mewn tŷ bach hyfryd, lle yr ydym wrthi’n creu hafan o Gymreictod, gan gynnwys cegin hen ffasiwn a fydd cyn bo hir yn cael arwydd newydd i’r drws: ‘Cegin Dodo’. Y mae ganddi llawr a waliau llechi, hyd at hanner ffordd, gyda gweddill y wal wedi ei phlastro’n wyn ‘steil ysgubor’. Yn y gegin fach clud yma yr wyf yn edrych ymlaen at goginio bwydydd blasus, gan gynnwys bwydydd ‘Goan’ sy’n rhan o etifeddiaeth newydd ein teulu, yn ogystal â hen ffefrynnau Cymreigaidd megis pastai fale a phwdin reis.

            Os gwnaf ddim arall a’n einioes, yr wyf yn benderfynol o fod yn ‘Dodo’ da, gan ddysgu cymaint o Gymraeg ag sy’n bosib i’r ddwy fechan. Yr wyf hefyd am wneud fy ngorau i hybu ymwybyddiaeth o’r hen eiriau anwes, tafodieithol yma. A gyda hyn mewn golwg yr wyf wedi postio dwy gerdd ac un stori fer (hyd yn hyn) ar y thema ‘Dodo’ ar fy wefan: <http://www.saralouisewheeler.wordpress.com> a byddaf wrthi dros yr haf (wedi i mi gwblhau fy noethuriaeth) yn llunio nofel antur i blant dan y teitl: “Carmen Fernandez-Jones and the secrets of Cegin Dodo”…ond fwy am hynna rhyw bryd arall! Am y tro dyma un o’r cerddi a chanddi flas eisteddfodol addas i’r haf ‘ma…

Ei Eisteddfod gyntaf

Y mae hi’n cysgu’n ddwfn y nawr,

Wedi cyffro ei diwrnod mawr,

Ei thrwyn bach del wedi ei chladdu,

Ym mhen y doli Sali Mali.

 

Olion hufen iâ o amgylch ei gwefusau,

Gronynnau tywod ar ei hesgidiau,

Ai am y feithrinfa y mae hi’n breuddwydio?

Lle tynnodd y llun y mae hi’n ei chydio?

 

Toc y mae’n deffro a’i llygaid yn agor,

Dychwelyd mae’r gwen unwaith yn rhagor,

A dyma ni’n troi hi yn ôl tuag adref,

i’r fflat ger-yr-afon, draw yn y pentref.

 

Ys gwn i os cofith manylion y dydd,

Dwn i’m ond yn sicr, mae gen i ffydd,

Gyda Nain, Taid a Dodo, fe gafodd hi hwyl,

Ar ei hymweliad cychwynnol i faes y brif ŵyl.

 

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Mehefin 2011 (Rhifyn 144)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, June 2011 (Issue 144).

              Dros y misoedd diwethaf y mae llawer o ddigwyddiadau bychain wedi fy atgoffa o gyfnod yn fy mywyd pan fues braidd yn anesmwyth a’r ffaith fy mod yn ‘heneiddio’, yn croesi’r ffin o un categori i’r llall, ac mi roeddwn yn ansicr iawn o’n hun; yn blwmp ac yn blaen mi roeddwn yn cael ‘argyfwng dirfodol’ (neu existential crisis ynde!) Mae hyn yn ffenomenon cyffredin wrth gwrs, gyda llwythi o ffilmiau, llyfrau, cyfresi teledu a jôcs wedi ei selio ar hyn fel y thema ganolog, ond gan amlaf cyfeirio at y ‘creisis canol oed’ ydynt.

                 Yn fy achos i fodd bynnag yr hyn a oedd yn gyfrifol am beri’r argyfwng oedd y ffaith fod fy mhen-blwydd trideg (neu deg-ar-hugain?!) yn nesáu a finnau’n gwingo wrth geisio dygymod a’r goblygiadau; erbyn hyn, er enghraifft, roeddwn wedi disgwyl y byddwn wedi hen orffen astudio, wedi fy setlo mewn gyrfa lwyddiannus, yn briod gyda thŷ bach neis, car, ella ci, ac yn sicr gyda digon o bres i fedru fforddio prynu anrhegion ‘dolig i’r teulu. Ond, fel y mae bywyd weithiau, nid fel hyn yr oedd pethau wedi troi allan a ddes i deimlo fy mod braidd yn fethiant, a fy mod wedi fy nal mewn rhyw fath o lasoed parhaol.

                  Am fisoedd maith fues yn pendroni ac yn dwrdio’n hun, ac yn swnian wrth bawb oedd yn fodlon gwrando (a rhai nad oedd ganddynt ddewis!) am y trychineb o beidio teimlo fy mod “yn y lle ddyliwn i fod hefo’n fywyd erbyn hyn”, a’r ffaith fod Frank Skinner unwaith wedi dweud fod merched dros 30 yn “rough as old boots”, a’r ffaith fod y geiriau i “Time” gan Pink Floyd wedi dechrau gwneud andros o synnwyr ac yn fy mhoenydio dydd a nos! (“Every year is getting shorter/ never seem to find the time/ plans that either come to nought/ or half a page of scribbled lines”).

                  Fuodd hyn yn broses ddefnyddiol a ffrwythlon fodd bynnag, ac o’r sgyrsiau yma mi ddois i sylweddoli fod llawer o bobl, yn enwedig merched, yn teimlo’r un fath o beth wrth iddynt dynnu tuag at adeg yma o’i bywydau. Mi ddwedodd un ffrind i mi ei bod hithau wedi gorfod mynd ar ei gwyliau ac yfed galwynau o win coch i ymdopi a’i phen-blwydd ‘trideg’ a’r ‘creisis chwarter bywyd’. Sylwais a’r cyfeiriadau ati ar y teledu, gan gynnwys Rachel yn y gyfres ‘Friends’ a ddwedodd un episod: Because she’s a woman and she’s almost 30 and you know…because she’s Monika!” Adlewyrchais hefyd fod ‘theme tune’ y gyfres yn adlewyrchu’r emosiynau’n berffaith: “…it’s like you’re always stuck in second gear/ when it hasn’t been your day, your week, your month or even your year…” ac mewn ffordd dyma oedd thema’r gyfres mewn gwirionedd, ‘mond fy mod heb sylwi hyn cyn rŵan, gan feddwl mai am gyfeillgarwch a byw bywyd hudol yn y ddinas ydoedd!

                  Yr esiampl fwyaf trawiadol fodd bynnag yw monolog Etta Place (aka Katherine Ross) yn y ffilm ‘Butch Cassidy and the Sundance kid’ wrth iddi ymateb i wahoddiad anfoesgar y Sundance kid (aka Robert Redfod):“I’m 26, and I’m single, and a school teacher, and that’s the bottom of the pit. And the only excitement I’ve known is here with me now. I’ll go with you, and I won’t whine, and I’ll sew your socks, and I’ll stitch you when you’re wounded, and I’ll do anything you ask of me except one thing: I won’t watch you die. I’ll miss that scene if you don’t mind.”

             Fel y gwelwn felly, mae ffiniau’r oedran perthnasol yn hyblyg ac nid o angenrheidrwydd yr un pen-blwydd carreg filltir sy’n achosi panig! Fuodd un o’m ffrindiau fi yn ddiweddar ar ‘facebook’ yn poeni am droi’n 32 gan nad oedd hi’n teimlo’n hapus a’i gyrfa erbyn hyn. Y mae yna ymwybyddiaeth yn tyfu erbyn hyn o’r ffaith fod trideg yn garreg filltir eithaf poenus i rai ac mae yna hyd yn oed llyfrau hunangymorth ar gael ar y pwnc (dwi’n gwybod achos mi ges i un yn anrheg!)

                Eniwe, serch hyn i gyd mi gefais ben-blwydd ardderchog: aros mewn gwesty hyfryd, cael bwyd yn Y Felin Ŷd, gyda’r teulu i gyd, ac yr wyf wedi dysgu erbyn hyn i o leiaf troedio’r dŵr, yn hytrach na phoenydio’n hun amdano. Efallai fod Pink Floyd eto hefo eiriau doeth i’w gynnig: “When I was a child/ I caught a fleeting glimpse/ out of the corner of my eye/  I turned to look but it was gone/ I cannot put my finger on it now/ the child is grown/ the dream is gone/ I…have become, comfortably numb”. Yn yr un ysbryd a chaneuon Pink Floyd fan hyn, mi sgwennais gerdd am fy mhoenedigaeth, yn a mewngapsiwleiddio’r chwerwder ac rwyf am ei rhannu hefo chwi isod.

                 Ond a’r nodyn mwy positif, mi welais yn eithaf diweddar raglen realaeth Kerry Katona, a chafodd hi barti i ddathlu‘r ffaith ei fod ar fin croesir trothwy ac yn cychwyn amrediad oed newydd, gan adael y sothach negatif y tu ôl iddi (ac mae’r ferch wedi bod yn hynod o anlwcus gyda’r llaw o gardiau’ (trosiadol) a ddeliwyd. Trawiadol iawn oedd agwedd Kerry ar y mater, ac yn ysbrydoliaeth. Wedi dweud hynny yr wyf innau hefyd yn llawer iawn fwy positif nag oeddwn i pan sgwennais y gerdd isod, ac mi basiodd fy mhen-blwydd 30 (am y trydydd tro!) flwyddyn yma bron heb ffws na stŵr! Ac wrth i mi dynnu tuag at ddiwedd fy noethuriaeth, a minnau nawr yn briod ac yn byw mewn tŷ bach twt yn Cilgwri, gyda chegin llechi a chrochenwaith Portmeirion, efallai gallaf amgyffred a’r syniad o fod yn hynach na tri-deg y flwyddyn nesaf…a bod yn barod, o’r diwedd, i wynebu’r dyfodol fel oedolyn diffuant!

                 Eniwe, dyma hi’r gerdd, a chofiwch gellwch ddarllen/ lawr lwytho fwy o fy ngwaith, ynghyd a’r cyn colofnau Synfyfyrion llenyddol o fy ngwefan: www.saralouisewheeler.wordpress.com 

30

Gwallt yn llwydi, gwasg yn lledaenu,

crychion ysgafn yn patrymu’r croen,

o amgylch fy llygaid blinedig.

Ddim eto’n hen, ag eto ddim yn ifainc,

bwgan y ddeg-ar-hugain yn fy helfa,

trwy’r byd effro ac yn fy nghwsg.

Ddim yn briod, ddim yn llwyddiant,

ddim yn hydal hyd yn oed.

Pendroni’n ddiflas am fy methiannau,

 cyn lleied yr wyf wedi ei wneud,

a’r chymaint na wnes i eto,

dros gyfnod fy einioes ddibwys.

 

Ni freuddwydiais am foethusrwydd,

enwogrwydd na gogoniant ychwaith,

ond meddyliais y byddaf, erbyn hyn,

â mwy i ymfalchïo ynddi.

Lle aeth pethe o chwith tybed?

i’r hogan fach hapus, llawn brwdfrydedd?

Ddim yn brydferth, ag eto’n reit ddel,

yn synhwyrol, heb fod yn rhagorol.

Yn ddigon clên hefyd, cyn i’r cymylau casglu,

a ddim am ddiffyg ymdrechu mae’r bai.

Mae fy mywyd braidd yn siom i mi felly,

Ac yn aml mae’r felan yn codi ynddo i.

 

Ag eto wrth i mi heneiddio,

mae’r dicter milain yn ymdawelu.

Rwy’n hidio llai, ac yn derbyn fwy,

yr hyn a dynghedwyd i mi.

Y mae’n rhaid cyfaddef, rwyf weithiau’n ymfalchïo,

yn fy nhristwch a digalondid.

Ella’n wir mai dyma fy nawn,

i berffeithio melys wylo.

Eto i gyd, ella mai dryswch,

Sy’n fy ngafael yn fy argyfwng..

Gobeithiaf pan yr wy’n cwrdd â’r bwgan,

Y daw pethau’n gliriach i mi unwaith eto.

 

Cyhoeddir yn wreiddiol yn fy ngholofn: Synfyfyrion llenyddol, ym mhapur bro Wrecsam: Y Clawdd,  Ebrill 2011 (Rhifyn 144)/ Originally published in my column: Synfyfyrion llenyddol (literary musings), in the Welsh language community magazine: Y Clawdd, April 2011 (Issue 144).

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn